Mae cyfraddau swyddi gwag oncoleg yn cyfeirio at "fater dyfnach" yn argyfwng gweithlu GIG Cymru.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu cleifion yng Nghymru oherwydd ddiffyg strategaeth ar argyfwng y gweithlu yn GIG Cymru, medd Arweinydd Gweithredol Plaid Cymru, Llyr Gruffydd AS.
Mae ffigurau diweddar gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr yn dangos bod gan Gymru gyfradd swyddi gwag oncoleg o 11%, gyda 80% o'r swyddi gwag hyn heb eu llenwi am dros 6 mis.
Er bod Llywodraeth Cymru yn aml wedi honni bod gweithlu GIG Cymru 'ar y lefelau uchaf erioed', mae ffigyrau a ddatgelwyd gan Blaid Cymru yn dangos bod lefelau staff gweinyddol a chlerigol wedi codi tra bod yna ostyngiadau yn lefelau staff meddygol a deintyddol.
Mae Mr Gruffydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar frys am "gynllun wedi'i gostio'n llawn ar gyfer model gweithlu wrth-gefn" a addawyd erbyn Ebrill 2023, ond hyd yma nid yw cyllid wedi'i nodi eto.
Codwyd Llyr Gruffydd AS yr pwyntiau hyn gyda'r Prif Weinidog yn ystod y Cyfarfod Llawn heddiw (dydd Mawrth 13 Mehefin).
Dywedodd Arweinydd Gweithredol Plaid Cymru:
"Mae gennym argyfwng yn ein GIG. Yr amseroedd aros mwyaf erioed, amseroedd ymateb ambiwlansys hiraf erioed, a gweithlu sydd wedi dirywio'n daer - mae Llafur wedi methu â mynd i'r afael â'r argyfwng yn ein GIG, a'r cleifion a'r staff sy'n dioddef.
"Er bod Llywodraeth Cymru yn mynnu bod 'y niferoedd uchaf erioed' yn cael eu cyflogi yn y GIG, nid yw rhywbeth yn adio i fyny, yn enwedig yn y maes oncoleg. Dim dim ond swyddi gwag staff rheng flaen yw'r broblem, mae hefyd yn cynnwys yr amser y mae'n ei gymryd i lenwi swyddi. Os yw'r duedd bresennol yn parhau, gallai Cymru fod yn wynebu diffyg o 41% o fewn pedair blynedd - llawer mwy nag unrhyw genedl arall yn y DU.
"Mae gwybodaeth a ddanganfyddwyd gan Blaid Cymru yn awgrymu bod y cynnydd cyffredinol yn lefelau staffio yn ein GIG yn ymwneud mwy â chynnydd mewn rolau gweinyddol, yn hytrach na gweithwyr rheng flaen. Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw dull strategol a thargedfennol o ddatrys yr argyfwng hwn yng ngweithlu'r GIG, yn hytrach na thaflu mwy o fiwrocratiaid at y broblem!
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer diagnosis a thriniaeth canser, ond pan maen nhw'n methu eu dyddiad cau ar gyfer darparu costau ar gyfer eu cynllun gweithlu, mae'n cwestiynu sut maen nhw'n gobeithio cyflawni hyn."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter