Llyr Gruffydd yn rhybuddio am ‘gyflymu'r argyfwng' ym maes gofal deintyddol y GIG

 

 

Practis deintyddol yn Llandrillo-yn-Rhos yw'r diweddaraf i ddod â'u contract GIG gyda'r bwrdd iechyd i ben - y pumed yng ngogledd Cymru dros y tri mis diwethaf. Mae'r "argyfwng cyflymu" ym maes gofal deintyddol y GIG ar draws y Gogledd wedi cael sylw gan Llyr Gruffydd AS, sydd wedi rhybuddio o'r blaen am ofal deintyddol y GIG sy'n wynebu difodiant.

Dywedodd Mr Gruffydd: "Mae hwn yn argyfwng cyflymach wrth i bractis deintyddol ar ôl practis deintyddol roi eu contractau yn ôl. Rydyn ni wedi gweld hyn yn digwydd ar Ynys Môn, yn Llandudno, Coedpoeth a Bwcle a nawr yn Llandrillo-yn-Rhos. O siarad â deintyddion, ymddengys mai'r broblem yw'r contractau newydd a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur. Er eu bod yn llawn ewyllys da, nid ydyn nhw yn gweithio ac mae'n amlwg o'r nifer cynyddol o bractisau deintyddol sy'n optio allan bod angen mynd i'r afael â nhw cyn i ofal deintyddol y GIG ddiflannu'n llwyr.  

 

"Mae hefyd yn amlwg bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn ymwybodol o'r pwysau. Er iddyn nhw dri mis yn ôl yn dweud wrth gleifion am ddarpariaeth ddeintyddol amgen y GIG yn y rhanbarth, mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn nodi: "Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn cadw gwybodaeth am ba feddygfeydd sydd â'r gallu i dderbyn cleifion newydd y GIG, gan fod y sefyllfa hon yn newid yn rheolaidd. Rydym felly yn argymell bod cleifion yn cysylltu â meddygfeydd o bryd i'w gilydd, i ofyn a oes modd eu hychwanegu at eu rhestr aros yr NHS.'

 

"Rydyn ni wedi rhybuddio gweinidogion Llafur bod hon yn broblem ddifrifol ac nad ydyn nhw'n gwneud dim am y peth. Rydym wedi gofyn i'r bwrdd iechyd ymateb i geisiadau gan ddeintyddion i allu trin pobl ifanc dan 18 oed ar gontractau GIG ac mae hynny wedi'i wrthod. Tydi'r Llywodraeth na'r Bwrdd Iechyd yn gwneud dim tra bod yr agwedd allweddol hon o'r GIG yn cael ei datgymalu o flaen ein llygaid ni.

 

"Mae cost ychwanegol gofal deintyddol preifat i deuluoedd - dros £500 y flwyddyn i deulu o bedwar - ar adeg o argyfwng costau byw parhaus yn fater gwirioneddol iawn. Ond yn fwy difrifol yw'r nifer cynyddol o bobl sydd heb unrhyw orchudd deintyddol. Rydym wedi gofyn am rifau ac yn cael gwybod gan y bwrdd iechyd nad ydyn nhw'n ei wybod. Mae'r niwed hirdymor i iechyd deintyddol pobl yn anfesuradwy."

Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i'r GIG a mynediad at ofal deintyddol y GIG. Rydym wedi ymgyrchu dros Ysgol Ddeintyddol i hyfforddi mwy o ddeintyddion yma yng ngogledd Cymru. Mae hynny'n ateb tymor hwy i sicrhau bod gennym ddigon o ddeintyddion hyfforddedig ond, yn y cyfamser, mae angen i ni weld y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn cymryd yr argyfwng deintyddol yng ngogledd Cymru o ddifrif."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Thomas
    published this page in Newyddion 2025-02-21 15:37:35 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd