Llywodraeth Cymru'n cytuno i ofynion Plaid Cymru i ohirio cynllun ffermio

Ddydd Mawrth, Mai 14eg mewn datganiad gan Huw Irranca Davies AS - Ysgrifennydd newydd y Cabinet sy'n gyfrifol am faterion gwledig - y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy dadleuol yn cael ei wthio yn ôl y flwyddyn.
 
Yn hytrach na dechrau yn 2025, bydd y cynllun nawr yn dod i rym yn 2026 wedi pwysau cyson gan Llyr Gruffydd a Phlaid Cymru.
 
Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) wedi denu llawer o feirniadaeth gan y diwydiant ffermio ers ei gyhoeddiad. Mae'r undebau ffermio a'r gymuned amaeth ehangach wedi bod yn llafar wrth fynegi eu pryderon i'r cynlluniau, gyda phryder eang gyda'r cynlluniau i blannu 10% o dir fferm gyda choed yn denu beirniadaeth.


Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Llyr Gruffydd AS yn ei rôl fel llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig: "Rwy'n falch ein bod, drwy gytundeb cydweithredu Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru, wedi sicrhau mwy o amser i gael y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn iawn."Rwyf wedi dadlau ers tro bod rhuthro bendramwnwgwl i gynllun a fydd yn effeithio cenedlaethau o ffermio yn anghyfrifol ac yn ffôl. Mae gennym gyfle nawr i gymryd cam yn ôl a gwneud y newidiadau angenrheidiol a fydd yn sicrhau bod y diwydiant yn prynu i mewn a chynllun mwy cynaliadwy ar gyfer ffermio ac ar gyfer natur. 


"Rwyf wedi bod yn gyson o'r diwrnod cyntaf bod cyflawni'r holl newidiadau a nodwyd gan y Llywodraeth yn y raddfa amser a ddarparwyd yn afrealistig, yn enwedig gyda'r angen i wrando ac ymateb i bryderon ffermwyr. Mae angen oedi blwyddyn yn fawr a bydd o ryddhad i lawer.
 
"Rwy'n falch ein bod heddiw wedi gweld Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd agwedd bragmatig a synhwyrol tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a bod llawer o alwadau Plaid Cymru nid yn unig wedi cael gwrandawiad ond wedi cael eu cyflawni."

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Thomas
    published this page in Newyddion 2024-05-14 15:58:43 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd