Llywodraeth Cymru'n herio pryderon llygredd 'tref sydd wedi ei anghofio'

 

Mae materion llygredd parhaus mewn tref yng ngogledd Cymru wedi cael eu codi gan Llyr Gruffydd AS sydd wedi disgrifio'r Waun fel 'tref anghofiedig'.

Mewn cwestiwn yn siambr y Senedd yn ddiweddar, gofynnodd Mr Gruffydd am gamau i atal problemau parhaus gyda microffibrau yn yr amgylchedd: "A gaf i ofyn am ddatganiad, unwaith eto, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd, ond y tro hwn ynglŷn â llygredd diwydiannol o safle Kronospan yn y Waun yn fy rhanbarth? Yn ystod y misoedd diwethaf, mae problemau hirhoedlog gydag allyriadau o'r safle wedi dwysáu. Mae cymylau o ficroffibrau o'r safle yn difetha cannoedd o gartrefi yn rheolaidd ac mae hynny, yn ei dro, yn codi pryderon yn glir ymhlith pobl leol am unrhyw effaith y mae hynny'n ei chael ar eu hiechyd.

"Clywodd cyfarfod cyhoeddus diweddar yn y dref nad oedd rheolwyr y cwmni, er gwaethaf cydnabod bod y broblem yn bodoli, yn gallu nodi ffynhonnell y llygredd. Yn amlwg, dylai hynny fod yn achos pryder pellach, yn enwedig i'r corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am fonitro'r gwaith, Cyfoeth Naturiol Cymru, ond nid yw'n ymddangos eu bod yn ymateb yn effeithiol naill ai i bryderon lleol, yn enwedig o ran yr effaith ar iechyd.

"Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth, yn amlinellu pa gamau y byddwch yn eu cymryd i helpu i ddatrys y sefyllfa hon a sut y byddwch yn camu i mewn ac yn diogelu iechyd y rhai sy'n byw ger y safle. Mewn gwirionedd, byddwn yn galw am asesiad iechyd i fesur effaith hirdymor y llygredd parhaus hwn ar les pobl. Mae angen i drigolion y Waun wybod pa gamau ymarferol y mae'r Llywodraeth hon yn mynd i'w cymryd i sicrhau bod llygredd diwydiannol yn y Waun yn cael ei leihau a bod iechyd y cyhoedd a diogelwch y cyhoedd yn cael eu blaenoriaethu."

Ymatebodd Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Busnes: "Mae hyn yn rhywbeth eto, mae gennym Ysgrifennydd y Cabinet yma lle mae angen i ni wybod am y pryderon hyn gan drigolion lleol, yn enwedig o ran llygredd diwydiannol a'r effaith y mae'r safle hwn yn ei chael yn Y Waun. Felly, unwaith eto, byddai'n ddefnyddiol pe gallech ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae eisoes yma i'w nodi a'i ddilyn, nid yn unig gyda'i swyddogion, ond yn amlwg gyda'r rheoleiddiwr, CNC."

Wrth siarad yn ddiweddarach dywedodd Mr Gruffydd: "Mae trigolion wedi cwyno dro ar ôl tro i'r cwmni a CNC dros arogleuon a'r microffibrau sy'n cael eu rhyddhau o'r ffatri. Mae un wedi dweud bod y Ddeddf Aer Glân yn berthnasol i bob rhan yng Nghymru - ac eithrio'r Waun mae'n ymddangos. Nid yw offer monitro aer sydd i fod i gadw preswylwyr yn ddiogel, mewn gwirionedd, yn monitro microffibrau neu arogleuon. Mae'n ymddangos bod y Waun yn dref anghofiedig o ran sicrhau diogelwch trigolion."

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Thomas
    published this page in Newyddion 2024-07-26 12:23:52 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd