Galwodd Llyr Gruffydd y system bresennol yn 'annheg' ac yn 'anymarferol' i nifer o bobl ag anableddau ac mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi datganiad yn amlinellu cynllun i ailwampio'r system.
Mewn datganiad yn y Senedd yr wythnos hon dywedodd Llyr Gruffydd, Aelod Senedd rhanbarthol gogledd Cymru-
"Mae'r system bresennol yn gorfodi unigolion i ailymgeisio am eu bathodynnau glas bob tair blynedd, ac mae hynny'n achosi pryder i lawer. Mae canran uchel o ddefnyddwyr bathodynnau glas sydd â chyflyrau tymor hir neu gydol oes, ac eto mae'n rhaid iddynt wneud cais bob tair blynedd am eu bathodynnau newydd.
"Pam mai dim ond bob 10 mlynedd y mae angen adnewyddu pasbort neu drwydded yrru, ond eto mae angen adnewyddu bathodyn glas anabledd bob tair blynedd? Yn syml, nid yw'n deg. Mae problem bellach gyda chymhlethdod y ffurflenni y mae angen eu llenwi, a materion hygyrchedd i ymgeiswyr gael y lluniau pasbort sydd eu hangen o photobooths"
Mae cannoedd o aelodau o'r gymuned hawliau anabledd yng Ngogledd Cymru wedi codi pryderon gyda dros 1600 o gefnogwyr yn arwyddo deiseb yn galw ar y Llywodraeth i ailwampio'r broses. Dywedodd elusen Stand North Wales o ogledd Cymru-
"Gall y broses hon fod yn rhwystredig iawn, ac mae'n cymryd llawer o amser i unigolion a'u rhoddwyr gofal a chanolbwyntio'n drwm ar agweddau negyddol galluoedd unigolyn."
Aeth Llyr Gruffydd ymlaen i ychwanegu-
"Yn sicr, os oes gennych gyflwr gydol oes, yna dylech allu cael bathodyn glas gydol oes."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter