Yn wir, un rhan o’r GIG sydd yn dangos arwyddion o straen ydi deintyddiaeth.
Yn y misoedd diwethaf mae practisiau yn Wrecsam a Rhuthun wedi datgan eu bod yn rhoi’r gorau i waith GIG a trwy wneud hynny yn orfodi miloedd o gleifion i fynd yn breifat os ydynt eisiau parhau i cael mynediad i ddeintydd. Ar gyfer teulu o bedwar amcangyfrifwyd ei fod yn costio £534 yn fwy y flwyddyn, ar amser mae prisiau bwyd, ynni, a tanwydd yn cynyddu.
I wneud materion yn waeth, y bobl a fydd yn medru cael mynediad i’r practisiau preifat newydd fydd y rhai lwcus. Dim ond 28% o gleifion presennol y bydd y practis yn Rhuthun yn medru derbyn. Felly y bydd bron i dri chwarter o gleifion heb ddeintydd GIG na preifat yn symud ymlaen.
Dydi hyn ddim yn argyfwng dros nos, nid barnu deintyddion yw hyn. Mae nifer ohonynt yn hynod o anhapus am y penderfyniad. Y broblem yw y methiant hir dymor i fuddsoddi mewn hyfforddiant a recriwtio digon o ddeintyddion yn o gystal a trethu cytundebau newydd gan Lywodraeth Cymru, sydd yn gwrthod cydnabod yr effaith mae hyn yn ei gael.
Yn Mis Ionawr, rhybuddiodd Russell Gidney, Cadeirydd Cymru Cymdeithas Deintyddol Prydain, y bydd methiant y llywodraeth i graffu effaith targedau newydd heb eu profi yn gorfodi nifer o bractisiau i dynnu’n ôl o ddeintyddiaeth GIDyn rhannol neu yn gyfan gwbl. Er hynny mae’r llywodraeth wedi cario ymlaen a mae y gweinidog iechyd Eluned Morgan wedi dweud bod y deintyddion sydd yn cwyno mewn lleiafrif bach. Efallai y dylai hi geisio, fel mae nifer o drigolion wedi, cofrestru gyda deintydd GIG yn y gogledd. Mae’n debygol y byddai hi yn darganfod nad yw yn hawdd iawn.
Mae system tri haen yn datblygu. Mae rhai dal hefo mynediad i ddeintydd GIG, mae rhai wedi penderfynu talu am ddeintydd, ond rŵan mae gennym nifer cynyddol o bobl sydd methu a cael mynediad i ddeintydd o gwbl achos nad oes wasanaeth GIG yn eu hardal. Y mae hyn wrth gwrs yn golygu bod y trydydd grŵp yn gorfod dibynnu ar ofal argyfwng – yn rhoi hyd yn oed mwy o straen ar Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys – a methu allan ar ofal ataliol y gall leihau poen a dioddefaint.
Rydw i yn poeni bod CDP yn iawn – mae dyfodol deintyddiaeth GIG yn y fantol ar rôl 13 blynedd o doriadau gan lywodraethau Torïaidd a camreolaeth gan lywodraethau Cymru.
Mae hyn hefyd yn peri gofid ehangach am os mai yn sydd i ddod mawn ardaloedd eraill, Gall Meddygon Teulu sydd yn gwynebu straeniau tebyg, ymddeol yn gynnar achos o’r pwysau gwaith, ac yn y diwedd fynd lawr yr un trywydd lle y byddem yn cael ein gadael hefo nifer cynyddol o bobl sydd methu cael gofal cynradd?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter