Mae Llyr Gruffydd AS wedi galw llaethdy yn Nyffryn Conwy yn "enghraifft wych o entrepreneuriaeth wledig" ac roedd yn llawn canmoliaeth i Llaethdy Plas Isa Dairy, yn Llansanffraid, pan aeth yno ar ymweliad etholaethol.
Mae gan y cwmni cynyddol beiriant gwerthu sydd wedi'i leoli ger y cae yng Nghlwb Pêl-droed Glan Conwy, sydd ychydig oddi ar yr A470, mae'n cyflenwi rownd laeth leol, yn ogystal â siopau lleol.
Mae'n cynhyrchu llaeth llawn, lled-sgim a sgim, yn ogystal â llaeth mewn amrywiaeth o flasau, gan gynnwys blasau banana, siocled a mefus.
Mae'r llaethdy, sydd wedi dod yn boblogaidd iawn gyda phobl leol ers ei lansio bedair blynedd yn ôl pan benderfynodd y teulu Jones sefydlu'r hufenfa ar eu fferm yng Nglan Conwy a gwerthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd.
Buddsoddodd Rachael Jones a'i gŵr Huw mewn offer arbenigol gwerthfawr fel uned pasteureiddio, sy'n golygu y gellir pasteureiddio eu llaeth ar y fferm. Fe wnaethon nhw hefyd adeiladu estyniad mawr ar eu llaeth a gosod ystafell wedi ei hoeri - fel oergell fawr.
Meddai Llŷr Gruffydd-
"Roedd yn bleser ymweld â Llaethdy Plas Isa i ddarganfod mwy am y busnes a sut mae'n arloesi a gwasanaethu'r gymuned leol.
"Mae eu llaeth a'u hysgytlaeth yn hynod boblogaidd, a does ryfedd - mae'r blas yn fendigedig!
"Mae'r hyn mae Rachael a Huw eisoes wedi'i gyflawni gyda Llaethdy Plas Isa Dairy yn enghraifft wych o entrepreneuriaeth wledig ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r busnes yn datblygu yn y dyfodol.
"Maen nhw'n buddsoddi yn eu busnes, mewn pobl leol ac yn eu cymuned, sy'n wych i'w weld. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y gymuned leol yn gallu parhau i fod yn fywiog a'u bod yn gwneud cynhyrchion iachus gwych tra eu bod wrthi.
"Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi busnesau fel hyn."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter