Ddydd Mawrth gofynnodd Llyr Gruffydd AS i Vaughan Gething, y Prif Weinidog a fyddai'n newid ei farn am yr honiadau o gam-drin sefydliadol hanesyddol mewn unedau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Daw hyn yng ngoleuni tystiolaeth newydd o'r diwylliant o gam-drin mewn unedau yn y gorffennol.
Yn ei gwestiwn i'r Prif Weinidog gofynnodd Llyr Gruffydd -
Ydych chi nawr eisiau adolygu eich safbwynt blaenorol? Oni ddylech fod wedi gwneud mwy ar y pryd i gyrraedd y gwir? Ac a ydych bellach yn difaru cyfleu darlun gwahanol iawn pan oeddech chi'n Weinidog, o gofio ein bod bellach yn gwybod bod y realiti yn wahanol iawn, iawn?"
Datgelwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf bod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi cymryd camau i ddiswyddo nyrs seiciatrig ar ôl gwrandawiad am yr hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel cam-drin sefydliadol yn yr uned, gan fynd yn ôl dros 10 mlynedd. Adeg yr achosion honedig o gam-drin Mr Gething oedd y gweinidog oedd yn gyfrifol am iechyd.
Atebodd Mr Gething -
"Pan oeddwn i'n Ddirprwy Weinidog Iechyd ac, yn wir, yn Weinidog y Cabinet dros iechyd, roeddwn bob amser yn glir iawn am y ffaith bod methiannau sylweddol mewn gofal iechyd, ac ar yr adeg pan wnes i'r sylwadau hynny, nid oedd tystiolaeth i gefnogi canfod cam-drin sefydliadol.
"Yr hyn a wnaethom, serch hynny, oedd cael ymchwiliad chwilio i'r hyn oedd wedi digwydd yno, ac, yn wir, mae hynny'n parhau nawr, nid yn unig yn yr un uned ond mewn gwirionedd i edrych ar wasanaethau iechyd meddwl ar draws gogledd Cymru. Felly, mae'r Llywodraeth, Eluned Morgan, wedi sicrhau bod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi cynnal adolygiad annibynnol o wasanaethau iechyd meddwl er mwyn deall a rhoi sicrwydd ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn argymhellion blaenorol."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter