O'r chwith i'r dde: Laura Tarling, Rheolwr Materion Allanol De Cymru a Lloegr a Llyr Gruffydd
Efo mwy a mwy o fanciau'r stryd fawr yn cau ar draws gogledd Cymru, mae llawer o bobl yn teimlo'n sownd yn ariannol a heb fynediad at arian yn ystod yr argyfwng costau byw presennol. Dyna farn Aelod o'r Senedd Llyr Gruffydd Plaid Cymru a wnaeth gyfarfod cynrychiolwyr o Swyddfa'r Post yn y Senedd yr wythnos hon i drafod eu gwasanaethau ar draws y rhanbarth.
Yn ôl Which? ers 2015, mae dros 4,700 o fanciau a changhennau cymdeithas adeiladu wedi cau ar draws y DU. Mae hyn yn gadael y Swyddfa Bost lleol fel yr unig ddarparwr am ddim at arian parod ar gyfer cymunedau a busnesau ar draws rhannau helaeth o Ogledd Cymru. Mewn gwirionedd, mae canghennau Swyddfa'r Bost bellach yn ffurfio 3 o bob 5 (60%) o'r holl fynediad arian parod ar sail canghennau ledled y wlad, gyda mwy o ganghennau ganddynt na'r holl fanciau a'r cymdeithasau adeiladu wedi adio gyda'i gilydd.Ac wrth i gyllidebau dynhau o amgylch teuluoedd ac aelwydydd, a phrisiau ynni'n codi'n barhaus, mae system PayOut newydd Swyddfa'r Post yn achubiaeth i lawer. Mae'r gwasanaeth yn caniatáu i sefydliadau a busnesau ddarparu taliadau, ad-daliadau ac arian parod i gwsmeriaid trwy anfon defnydd un-amser, cod syml neu god-bar, sy'n cael ei anfon drwy tects-ffon, e-bost, neu lythyr. Yna gall cwsmeriaid ail-wneud y daleb hon mewn Swyddfa Bost neu Payzone a derbyn arian parod yn syth dros y cownter. Mae'r gwasanaeth yn osgoi'r angen am daliadau banc digidol neu sieciau.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS "Ar ôl bod yn rhan o sawl ymgyrch yn erbyn cau canghennau banc yng Ngogledd Cymru, rwyf wedi gweld yr effaith y gall colli'r gwasanaethau hyn ei chael ar ein cymunedau. Dyma'r mwyaf bregus sy'n cael eu gadael yn sownd yn enwedig yn y blynyddoedd diweddaraf mwyaf heriol hyn.
Mae croeso mawr i weld Swyddfa'r Bost yn camu i'r adwy i lenwi'r bwlch a adawyd gan fanciau a chymdeithasau adeiladu ac mae'n ystod eang o wasanaethau bellach yn ddarpariaeth hanfodol i lawer o gymunedau.
"Bydd y dull PayOut newydd yn enwedig yn darparu gwasanaeth gwych i gynghorau, sefydliadau a busnesau lleol yn ogystal â chwsmeriaid sydd angen mynediad hawdd ac am ddim at arian parod a chefnogaeth. Er y gall mynediad barhau i fod yn her i'r cymunedau mwyaf gwledig, rydym yn gwybod bod 92% o'r boblogaeth yn gallu cael mynediad i Swyddfa Bost o fewn milltir i'w cartref. Yn sicr, mae'n profi'n achubiaeth y mae mawr ei hangen ar gymunedau yng ngogledd Cymru.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter