Mae AS Gogledd Cymru Plaid Cymru wedi croesawu ailagor prosiect Men's Shed Dinbych yn Nhrefeirian ar gyrion y dref, gan ei ddisgrifio fel "achubiaeth mewn cyfnod heriol".
Ymwelodd Llŷr Gruffydd â'r safle a chwrdd â chydlynydd Men's Shed, Nathan Sarea yn ogystal â gwirfoddolwyr yn y prosiect, sydd wedi creu gardd helaeth ac sydd hefyd yn darparu cyfleoedd i ddysgu crefft a sgiliau newydd.
Dywedodd Mr Gruffydd: "Daeth prosiect Men's Shed ataf i a chynghorydd lleol Plaid Cymru Rhys Thomas oherwydd iddo gael ei gau allan o'r safle yn gynharach eleni gan berchnogion yr adeilad, bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Roedd y rhesymau a roddwyd yn chwilfrydig, i'w roi'n ysgafn, ac roedd y difrod posibl a achoswyd i'r prosiect a'r dwsinau niferus o bobl sy'n dibynnu arno am eu hiechyd a'u hunanwerth yn sylweddol. Methodd y bwrdd iechyd ag ystyried hyn.
Rydym ni, ac eraill, wedi lobïo'n helaeth i'r bwrdd iechyd ailystyried y penderfyniad ac, a bod yn deg, maent bellach wedi derbyn bod angen i'r prosiect ailagor er mwyn parhau â'r gwaith rhagorol y mae'n ei wneud er lles llawer o bobl yn ardal Dinbych."
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, sy'n cynrychioli'r dref ar Gyngor Sir Ddinbych, fod synnwyr cyffredin wedi bodoli: "Roeddwn yn bryderus iawn o glywed bod prosiect Men's Shed wedi'i gau mor sydyn, pan mae'n amlwg yn helpu iechyd meddwl dynion. Ar ôl rhywfaint o waith cydgysylltiedig, rwy'n falch o weld y bwrdd iechyd yn cydnabod hyn ac yn caniatáu i'r prosiect ddychwelyd ar y safle fel bod gwaith ar yr awyr agored a mannau dan do. Rwy'n dymuno'r gorau iddynt wrth symud ymlaen."
Dywedodd cydlynydd Men's Shed, Nathan Sarea: "Mae'r prosiect wedi rhoi cymorth i gannoedd o bobl dros y saith mlynedd diwethaf ac mae wedi bod yn amhrisiadwy o ran cynnal eu hiechyd meddwl yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn. Dyna pam y cawsom ein llorio i gael gwybod - ar fyr rybudd a heb esboniad priodol - fod y prosiect yn cael ei atal. Mae'r gefnogaeth a gawsom gan y gymuned a chan wleidyddion yn gyffredinol wedi bod yn hwb mawr i'r prosiect ac i fod yn ôl ar agor mae'r eisin ar y gacen. Diolch i Llŷr a Rhys am droi i fyny at ein hailagor ac edrychwn ymlaen at fynd o nerth i nerth a gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i wneud y prosiect hyd yn oed yn well yn y dyfodol."
Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn i lawer o bobl dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae prosiectau cymunedol fel y Men's Shed wedi bod yn achubiaeth yn y cyfnod heriol hwn i lawer o bobl. Mae gwirfoddolwyr ar y prosiect wedi gwneud rhyfeddodau wrth drawsnewid y gerddi yn rhandiroedd a thyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain. Mae adeiladau wedi dod yn ôl yn fyw a bydd y prosiect yn awr, rwy'n siŵr, yn datblygu ymhellach fyth gan fod penaethiaid iechyd wedi deall ei bwysigrwydd. Ni ddylai fod wedi'i gau i lawr yn y lle cyntaf ond rwy'n siŵr bod gwersi wedi'u dysgu a gall perthynas well ddeillio o'r cyfan."
O'r chwith, Cynghorydd Rhys Thomas, Llŷr Gruffydd AS, gwirfoddolwr Leona Mills a chydlynydd sied dynion Dinbych, Nathan Sarea.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter