Yr wythnos hon yn y Senedd fe heriodd Llyr Gruffydd y Llywodraeth i ddatgelu eu cynlluniau ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru.
Bydd y buddsoddiad o £1BN+ ym Metro De Cymru yn dod â system drafnidiaeth gyhoeddus o'r radd flaenaf, ond beth am y gogledd?
Dywedodd Llyr Gruffydd AS yn y Senedd-
"Mae llawer ohonom ni yng ngogledd Cymru yn edrych yn genfigennus ar y buddsoddiad sy'n mynd i mewn i fetro de Cymru, y £1 biliwn yn ogystal ag uwchraddio gwasanaethau, sydd, wrth gwrs, i'w groesawu, ond, ar y llaw arall, mae gennym gybolfa gandifflos amwys sydd wedi'i frandio yn Fetro Gogledd Cymru sydd ond yn cysylltu gwasanaethau trên a bysiau presennol.
"Mae gwasanaethau bysiau, fel y gwyddom, wedi bod yn frawd bach tlawd i'r rheilffyrdd ers amser maith, gyda gwasanaethau'n dirywio ers cyn COVID, mewn gwirionedd. Rwy'n croesawu cynigion y Llywodraeth ynghylch masnachfreinio bysiau a dod â'r afael sydd gan gwmnïau bysiau preifat ar y gwasanaethau hynny, ond er mwyn iddo weithio'n iawn, mae'n amlwg bod yn rhaid ei ariannu'n iawn.
"Aeth Llyr Gruffydd ymlaen i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet - Rebecca Evans -
"A allwch chi ein sicrhau heddiw y byddwch chi'n buddsoddi mwy o arian mewn gwasanaethau bysiau i sicrhau bod y ddeddfwriaeth fysiau arfaethedig mor effeithiol ag yr ydym i gyd yn gobeithio y bydd hi? Ac a allwch hefyd ein sicrhau y bydd gogledd Cymru yn cael ei sleisen deg o'r gacen?"
Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet yn benodol ar fater masnachfreinio bysiau -
"Yn anffodus, nid wyf yn gallu dweud mwy o ran y cyllid ar gyfer masnachfreinio bysiau yn y dyfodol, dim ond oherwydd nad ydym wedi cael y trafodaethau hynny eto, nid ydym eto wedi cael ein setliad gan Lywodraeth y DU. Nid ydym wedi dechrau cyfnod adolygu gwariant o'r math hwnnw eto. Ond byddwn yn ystyried pwysigrwydd gwasanaethau bysiau, wrth i ni gychwyn ar y trafodaethau hynny."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter