Mae MS wedi galw am weithredu i fynd i'r afael â pla gwersyllwyr anghyfreithlon "anghyfrifol" yn difeta mannau prydferth yng ngogledd Cymru.
Mae Llyr Gruffydd, sy'n cynrychioli'r rhanbarth yn y Senedd, wedi cefnogi pobl leol flin yng Nghapel Curig a Beddgelert sydd wedi cael llond bol o wersyllwyr anghyfreithlon sy'n gadael eu hôl sbwriel a gwastraff dynol yn eu sgil.
Mae'r aelod Senedd Plaid Cymru eisiau sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n gwneud digon i gefnogi cymunedau lleol a sicrhau eu bod yn cael adnoddau digonol i ddelio â'r mater.
Wrth i fannau poblogaidd i dwristiaid yng Nghymru baratoi ar gyfer gwyliau'r Pasg, rhybuddiodd cynghorydd cymuned Capel Curig, Shan Ashton, bod problem gwersylla anghyfreithlon yn "gwaethygu".
Siaradodd Mr Gruffydd ar y mater yn y Senedd yn dilyn cyfarfod gyda chynrychiolwyr o gynghorau cymuned Capel Curig a Beddgelert, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Yn y Senedd, dywedodd Llyr Gruffydd AS: "Dyma ddechrau'r tymor twristiaeth traddodiadol, ac wrth gwrs mae hynny'n dod â phob math o gyfleoedd a buddion i rannau helaeth o Gymru.
"Ond mae rhai cymunedau lle mae'r adeg yma o'r flwyddyn yn golygu dechrau trafferthion parcio, taflu sbwriel, gwersylla anghyfreithlon, a phwysau mawr ar isadeiledd lleol.
"Yr wythnos ddiwethaf, cefais gyfarfod gyda chynghorau cymuned Capel Curig a Beddgelert, yn ogystal â phartneriaid yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, parc cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac eraill, er mwyn trafod rhai o'r heriau a'r pryderon yma.
"A allaf ofyn felly am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r cymunedau hyn, efallai trwy helpu i wella seilwaith, sicrhau bod gan y partneriaid perthnasol yr adnoddau angenrheidiol i ddelio â phroblemau, a hefyd i helpu i amddiffyn ecoleg yr ardaloedd hyn?
"Oherwydd mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei niweidio gan rai ymwelwyr anghyfrifol, sydd nid yn unig ddim yn parchu'r rheolau ond yn aml iawn yn torri'r gyfraith."
Atebodd Lesley Griffiths Gweinidog Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru: "Yn amlwg, er ein bod ni eisiau gweld twristiaeth yn cynyddu yma yng Nghymru, yn anffodus, fel sy'n digwydd yn aml, mae'r lleiafrif yn ei ddifetha i'r mwyafrif.
"Rwy'n gwybod fod y Dirprwy Weinidog wedi mynd i'r afael ar y portffolio twristiaeth ddiweddar ac yn edrych ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â thwristiaeth, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n hapus iawn i'n diweddaru ni trwy ddatganiad ysgrifenedig."
Dywedodd cynghorydd cymuned Capel Curig, Shan Ashton: "Mae'r gymuned a'r ecoleg leol yn dioddef yn ofnadwy oherwydd problem gwersyllwyr anghyfreithlon a faniau gwersylla wrth ymyl y ffordd yn ymddangos ym mhobman.
"Yn wahanol i'n gwersyllwyr a'n hymwelwyr arferol, maen nhw'n gwersylla am ddim, yn cyfrannu dim o gwbl i'r gymuned leol, ond yn gadael tu ôl i sbwriel, gwastraff dynol, peryglon tân, dinistrio coed ar gyfer pren tân, difrod arwyddion, cŵn yn rhedeg yn rhydd heb dennyn, sbwriel, a'n dinistro ffensys, a giatiau.
"Ry'n ni'n trio ein gorau glas i daclo'r broblem. Mae gennym dîm o wirfoddolwyr cymunedol sy'n casglu sbwriel yn rheolaidd, mae awdurdodau'r Parc yn gosod arwyddion newydd, ac yn gofyn i ymwelwyr ddilyn rheolau'r cod cefn gwlad, rhoi cyngor cyfeillgar iddyn nhw, a cheisio monitro'r cerbydau sy'n mynd a dod. Yn anffodus, er gwaethaf hyn, dyw'r problem ddim yn gwella mae'n gwaethygu. Mae'n difetha pethau i bobl leol ac ymwelwyr cyfrifol".
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter