A wnaiff y llywodraeth unioni’r sefyllfa sy’n arwain cynifer o bobl anabl i dlodi?
Ddoe yn y Senedd gofynnodd Llyr Gruffydd AS a oedd oedolion anabl yng Nghymru yn cael eu plymio'n ddyfnach ac yn ddyfnach i drafferthion ariannol a gofynnodd - beth fydd y llywodraeth yn ei wneud i unioni'r sefyllfa?
Mewn cwestiwn i Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol gofynnodd Llyr Gruffydd -
“A ydych chi’n cytuno nad yw’r cynigion i gynyddu’r cap ar ofal cymdeithasol dibreswyl i oedolion yng Nghymru wedi’u llunio'n ddigonol ac a ydych chi’n cydnabod y bydd hyn mewn gwirionedd yn plymio pobl anabl hyd yn oed yn ddyfnach i drafferthion ariannol?”
Cyflwynwyd y cwestiwn hwn mewn ymateb i adroddiadau gan rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru eu bod wedi dosbarthu bron i 190,000 o barseli bwyd brys yn ystod y 12 mis o fis Ebrill y llynedd. Dyna'r nifer uchaf o becynnau maen nhw erioed wedi gorfod eu cyflenwi. Yn y cyfnod hwnnw, roedd 73 y cant o’r bobl hynny a atgyfeiriwyd at fanciau bwyd yn bobl anabl, sy’n fwy na dwbl cyfran y boblogaeth sydd wedi’u cofrestru’n anabl.
Yn ogystal â hyn, mewn adroddiad gan Sefydliad Bevan a ryddhawyd y llynedd, amlygwyd nad yw’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb yn gyfartal, gyda rhai grwpiau’n cael eu taro’n arbennig o galed, gan gynnwys pobl ag anableddau. Amlygodd yr adroddiad fod pobl anabl weithiau, yn aml neu bob amser yn cael trafferth gyda chost eitemau hanfodol 10% yn fwy na chyfartaledd Cymru. Amlygodd hefyd fod 41% o bobol anabl sydd yn rhentu tai yn dweud eu bod weithiau, yn aml neu wastad yn ei chael hi'n anodd fforddio hanfodion byw. Mae pobl anabl ymhlith y rhai mwyaf tebygol o adrodd am dorri’n ôl neu fynd heb fwyd neu wres ac maent mewn mwy o berygl o fod mewn dyled na’r boblogaeth yn gyffredinol.
Mae ymchwil gan yr elusen anabledd Scope yn awgrymu bod costau byw yn uwch ar gyfer pobl ag anableddau, sy'n dangos bod aelwydydd anabl yn gwario £625 yn fwy bob blwyddyn ar gyfartaledd o gymharu â chartrefi nad ydynt yn anabl.
Yn ei hymateb i Llyr Gruffydd, dywedodd Leslie Griffith-
“Fel Llywodraeth, fe fyddwch chi’n gwybod ein bod ni wedi bod yn gweithio gyda phobl anabl i wneud yn siŵr eu bod nhw’n derbyn popeth y dylen nhw ei wneud, ac mae gennym ni hefyd siarter budd-daliadau Cymru, yr wyf yn edrych ymlaen at fwrw ymlaen â hi.”
Mae Llyr Gruffydd yn holi'r Prif Weinidog a ydi o yn difaru peidio â gwneud mwy mewn ymateb i honiadau o gam-drin sefydliadol hanesyddol mewn unedau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru.
Ddydd Mawrth gofynnodd Llyr Gruffydd AS i Vaughan Gething, y Prif Weinidog a fyddai'n newid ei farn am yr honiadau o gam-drin sefydliadol hanesyddol mewn unedau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Daw hyn yng ngoleuni tystiolaeth newydd o'r diwylliant o gam-drin mewn unedau yn y gorffennol.
Yn ei gwestiwn i'r Prif Weinidog gofynnodd Llyr Gruffydd -
Ydych chi nawr eisiau adolygu eich safbwynt blaenorol? Oni ddylech fod wedi gwneud mwy ar y pryd i gyrraedd y gwir? Ac a ydych bellach yn difaru cyfleu darlun gwahanol iawn pan oeddech chi'n Weinidog, o gofio ein bod bellach yn gwybod bod y realiti yn wahanol iawn, iawn?"
Datgelwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf bod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi cymryd camau i ddiswyddo nyrs seiciatrig ar ôl gwrandawiad am yr hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel cam-drin sefydliadol yn yr uned, gan fynd yn ôl dros 10 mlynedd. Adeg yr achosion honedig o gam-drin Mr Gething oedd y gweinidog oedd yn gyfrifol am iechyd.
Atebodd Mr Gething -
"Pan oeddwn i'n Ddirprwy Weinidog Iechyd ac, yn wir, yn Weinidog y Cabinet dros iechyd, roeddwn bob amser yn glir iawn am y ffaith bod methiannau sylweddol mewn gofal iechyd, ac ar yr adeg pan wnes i'r sylwadau hynny, nid oedd tystiolaeth i gefnogi canfod cam-drin sefydliadol.
"Yr hyn a wnaethom, serch hynny, oedd cael ymchwiliad chwilio i'r hyn oedd wedi digwydd yno, ac, yn wir, mae hynny'n parhau nawr, nid yn unig yn yr un uned ond mewn gwirionedd i edrych ar wasanaethau iechyd meddwl ar draws gogledd Cymru. Felly, mae'r Llywodraeth, Eluned Morgan, wedi sicrhau bod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi cynnal adolygiad annibynnol o wasanaethau iechyd meddwl er mwyn deall a rhoi sicrwydd ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn argymhellion blaenorol."
Croesawu disgyblion Ysgolion Bryn Tabor a Bro Alun i'r Senedd
Mae Llyr Gruffydd AS wedi croesawu disgyblion "awyddus" o ddwy ysgol yn sir Wrecsam i'r Senedd lle dysgon nhw am ddemocratiaeth Cymru.
Cafodd disgyblion Ysgol Bryn Tabor, yng Nghoedpoeth ac Ysgol Bro Alun, yng Ngwersyllt, daith dywys o amgylch Senedd Cymru.
Siaradodd Llyr Gruffydd â'r bobl ifanc sut mae'r Senedd yn gweithio ac am ei rôl yn ymladd ar ran etholwyr ac yn craffu ar waith Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Llŷr Gruffydd: "Roedd hi'n wych cael siarad gyda disgyblion Ysgol Bryn Tabor ac Ysgol Bro Alun, yn ystod eu hymweliad â'r Senedd er mwyn iddyn nhw allu dysgu am y gwaith sy'n digwydd yma."Roedden nhw'n awyddus iawn i ddarganfod sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru ac fe wnaethon nhw ofyn llawer o gwestiynau meddylgar, deallus a threiddgar.
"Fe wnaethant ddangos yn glir bod pobl ifanc eisiau ymwneud â gwleidyddiaeth, fel y gallant lunio sut mae'n effeithio ar eu bywydau.
"Mae meithrin y math hwn o ymgysylltiad cadarnhaol gan bobl ifanc gyda'r Senedd yn bwysig ar gyfer dyfodol ein democratiaeth yng Nghymru.
"Hoffwn ddiolch i ddisgyblion Ysgol Bryn Tabor ac Ysgol Bro Alun yn ogystal â'r aelodau staff am estyn y fraint o siarad â nhw am waith y Senedd."
Metro o'r radd flaenaf, neu gybolfa gandifflos amwys i ogledd Cymru?
Yr wythnos hon yn y Senedd fe heriodd Llyr Gruffydd y Llywodraeth i ddatgelu eu cynlluniau ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru.
Bydd y buddsoddiad o £1BN+ ym Metro De Cymru yn dod â system drafnidiaeth gyhoeddus o'r radd flaenaf, ond beth am y gogledd?
Dywedodd Llyr Gruffydd AS yn y Senedd-
"Mae llawer ohonom ni yng ngogledd Cymru yn edrych yn genfigennus ar y buddsoddiad sy'n mynd i mewn i fetro de Cymru, y £1 biliwn yn ogystal ag uwchraddio gwasanaethau, sydd, wrth gwrs, i'w groesawu, ond, ar y llaw arall, mae gennym gybolfa gandifflos amwys sydd wedi'i frandio yn Fetro Gogledd Cymru sydd ond yn cysylltu gwasanaethau trên a bysiau presennol.
"Mae gwasanaethau bysiau, fel y gwyddom, wedi bod yn frawd bach tlawd i'r rheilffyrdd ers amser maith, gyda gwasanaethau'n dirywio ers cyn COVID, mewn gwirionedd. Rwy'n croesawu cynigion y Llywodraeth ynghylch masnachfreinio bysiau a dod â'r afael sydd gan gwmnïau bysiau preifat ar y gwasanaethau hynny, ond er mwyn iddo weithio'n iawn, mae'n amlwg bod yn rhaid ei ariannu'n iawn.
"Aeth Llyr Gruffydd ymlaen i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet - Rebecca Evans -
"A allwch chi ein sicrhau heddiw y byddwch chi'n buddsoddi mwy o arian mewn gwasanaethau bysiau i sicrhau bod y ddeddfwriaeth fysiau arfaethedig mor effeithiol ag yr ydym i gyd yn gobeithio y bydd hi? Ac a allwch hefyd ein sicrhau y bydd gogledd Cymru yn cael ei sleisen deg o'r gacen?"
Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet yn benodol ar fater masnachfreinio bysiau -
"Yn anffodus, nid wyf yn gallu dweud mwy o ran y cyllid ar gyfer masnachfreinio bysiau yn y dyfodol, dim ond oherwydd nad ydym wedi cael y trafodaethau hynny eto, nid ydym eto wedi cael ein setliad gan Lywodraeth y DU. Nid ydym wedi dechrau cyfnod adolygu gwariant o'r math hwnnw eto. Ond byddwn yn ystyried pwysigrwydd gwasanaethau bysiau, wrth i ni gychwyn ar y trafodaethau hynny."
Dathlu pen-blwydd Ysgol Pentrecelyn yn y Senedd!
Heddiw yn y Senedd cafodd Llyr Gruffydd y cyfle i ddymuno Penblwydd Hapus i Ysgol Pentrecelyn.
Dyma'r hyn ddywedodd Llyr yn Siambr y Senedd-
"Llongyfarchiadau i Ysgol Pentrecelyn ar ddathlu ei phenblwydd yn 150 mlwydd oed yr wythnos yma.
Fel cyn-riant a Llywodraethwr yno ar hyn o bryd, dwi ishe nodi’r garreg filltir nodedig yma i’r ysgol fechan wledig hon yn Nyffryn Clwyd.
Agorwyd Ysgol Pentrecelyn ar 11eg Mai 1874 gyda 34 o blant ar y gofrestr a Mr Owen Henry Owen, Gaerwen yn bennaeth. Sarah Ann Winter o Siop Pentrecelyn oedd yr enw cyntaf ar y gofrestr a Grace Jones, Fron Isa oedd yr ail.
Ac mae ‘na filoedd o ddisgyblion wedi dilyn yn ôl eu traed nhw ar y gofrestr ers hynny. Pobl fel yr actorion Rhys Ifans a’i frawd Llyr Ifans, yr actores Victoria Pugh, y pianydd rhyngwladol Teleri Sian a’r cantorion nodedig Sera Baines ac Elis Jones – sydd hefyd gyda llaw yn bencampwr byd ar saethu colomennod clai’r– i enwi dim ond rhai o’i chyn-ddisgyblion!
Ac mae’r ysgol yn dal i fynd o nerth i nerth, gyda arolwg disglair gan Estyn llynedd yn amlygu bod Ysgol Pentrecelyn yn ysgol ragorol sy’n darparu addysg a phrofiadau dysgu o ansawdd uchel i’w disgyblion.
Fe gafwyd cyngerdd dathlu gyda channoedd lawer yn dod iddi rai wythnosau nol ac mi fydd yna ddiwrnod dathlu a pharti penblwydd mawr yn cael ei gynnal yn yr ysgol ddydd Sadwrn yma.
Fel ysgrifennodd Gareth Neigwl yn ei englyn bendigedig:
A’i haddysg imi’n wreiddyn – hyd fy oes,
I’w hiard fach rwy’n perthyn;
Lle bo’r daith daw llwybrau dyn
Yn ôl i Bentrecelyn.
Penblwydd hapus i Ysgol Pentrecelyn gan bawb yn Senedd Cymru!"
Llywodraeth Cymru'n cytuno i ofynion Plaid Cymru i ohirio cynllun ffermio
Ddydd Mawrth, Mai 14eg mewn datganiad gan Huw Irranca Davies AS - Ysgrifennydd newydd y Cabinet sy'n gyfrifol am faterion gwledig - y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy dadleuol yn cael ei wthio yn ôl y flwyddyn.
Yn hytrach na dechrau yn 2025, bydd y cynllun nawr yn dod i rym yn 2026 wedi pwysau cyson gan Llyr Gruffydd a Phlaid Cymru.
Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) wedi denu llawer o feirniadaeth gan y diwydiant ffermio ers ei gyhoeddiad. Mae'r undebau ffermio a'r gymuned amaeth ehangach wedi bod yn llafar wrth fynegi eu pryderon i'r cynlluniau, gyda phryder eang gyda'r cynlluniau i blannu 10% o dir fferm gyda choed yn denu beirniadaeth.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Llyr Gruffydd AS yn ei rôl fel llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig: "Rwy'n falch ein bod, drwy gytundeb cydweithredu Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru, wedi sicrhau mwy o amser i gael y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn iawn."Rwyf wedi dadlau ers tro bod rhuthro bendramwnwgwl i gynllun a fydd yn effeithio cenedlaethau o ffermio yn anghyfrifol ac yn ffôl. Mae gennym gyfle nawr i gymryd cam yn ôl a gwneud y newidiadau angenrheidiol a fydd yn sicrhau bod y diwydiant yn prynu i mewn a chynllun mwy cynaliadwy ar gyfer ffermio ac ar gyfer natur.
"Rwyf wedi bod yn gyson o'r diwrnod cyntaf bod cyflawni'r holl newidiadau a nodwyd gan y Llywodraeth yn y raddfa amser a ddarparwyd yn afrealistig, yn enwedig gyda'r angen i wrando ac ymateb i bryderon ffermwyr. Mae angen oedi blwyddyn yn fawr a bydd o ryddhad i lawer.
"Rwy'n falch ein bod heddiw wedi gweld Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd agwedd bragmatig a synhwyrol tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a bod llawer o alwadau Plaid Cymru nid yn unig wedi cael gwrandawiad ond wedi cael eu cyflawni."
Lansio deiseb i alw am hwb bancio i Ddinbych
Yn ddiweddar fe lansiodd Llyr Gruffydd ddeiseb i greu hwb bancio yn Ninbych.
Dywed Llŷr Gruffydd bod y ddeiseb yn "gyfle i anfon neges bwerus" yn dilyn cau cyfres canghennau yn y dref.
Mae gan y ddeiseb gefnogaeth lawn grŵp o gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych, sydd hefyd wedi bod yn galw am greu hwb bancio.
Mae Dinbych wedi cael ei adael heb un banc ar y stryd fawr wedi i HSBC, Halifax, NatWest a Barclays gau eu canghennau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae ton o gau canghennau ledled y DU wedi arwain at greu canolfannau bancio fel bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau bancio hanfodol.
Datblygodd rhwydwaith mynediad ariannol ac ATM y DU, LINK y syniad ar gyfer y canolfannau hyn ond hyd yma maent wedi gwrthod creu un yn Ninbych.
Agorwyd canolfan fancio newydd ym Mhrestatyn ym mis Rhagfyr 2023 mewn ymateb i gau canghennau yn y dref.
Mae canolfannau bancio yn gweithredu mewn ffordd debyg i ganghennau banc traddodiadol. Ond mae'r mannau yn cael eu rhannu ac mae'r ganolfan yn cynnwys gwasanaeth cownter sy'n cael ei weithredu gan staff Swyddfa'r Post.
Gall cwsmeriaid unrhyw fanc dynnu'n ôl ac adneuo arian parod, gwneud taliadau biliau, a chynnal trafodion bancio rheolaidd. Mae yna hefyd fynediad ATM am ddim, ac arian yn ôl heb brynu.
Mae ganddynt fannau preifat ar gyfer delio â materion mwy cymhleth. Yn y rhain gall cwsmeriaid siarad ag aelod o staff o'u banc eu hunain.
Mae'r banciau hyn yn gweithio ar sail cylchdroi, ac mae hyn yn golygu bod staff o wahanol fanciau ar gael ar ddiwrnodau gwahanol.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS, o Blaid Cymru: "Mae'n gwbl glir bod gwir angen hwb bancio yn Ninbych, a dyna pam rwyf wedi lansio'r ddeiseb hon.
"Mae'n gwbl annerbyniol bod pobl y dref a'r ardal gyfagos wedi cael eu gadael heb fynediad i'r gwasanaethau bancio sydd eu hangen arnynt.
Mae canolfannau bancio yn gweithredu mewn ffordd debyg i ganghennau banc traddodiadol. Ond mae'r mannau yn cael eu rhannu ac mae'r ganolfan yn cynnwys gwasanaeth cownter sy'n cael ei weithredu gan staff Swyddfa'r Post.
Gall cwsmeriaid unrhyw fanc dynnu'n ôl ac adneuo arian parod, gwneud taliadau biliau, a chynnal trafodion bancio rheolaidd. Mae yna hefyd fynediad ATM am ddim, ac arian yn ôl heb brynu.
Mae ganddynt fannau preifat ar gyfer delio â materion mwy cymhleth. Yn y rhain gall cwsmeriaid siarad ag aelod o staff o'u banc eu hunain.
Mae'r banciau hyn yn gweithio ar sail cylchdroi, ac mae hyn yn golygu bod staff o wahanol fanciau ar gael ar ddiwrnodau gwahanol.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS, o Blaid Cymru: "Mae'n gwbl glir bod gwir angen hwb bancio yn Ninbych, a dyna pam rwyf wedi lansio'r ddeiseb hon.
"Mae'n gwbl annerbyniol bod pobl y dref a'r ardal gyfagos wedi cael eu gadael heb fynediad i'r gwasanaethau bancio sydd eu hangen arnynt.
"Dyma gyfle i anfon neges bwerus at LINK sydd hyd yma wedi gwrthod creu canolfan fancio yn Ninbych, er eu bod wedi gwneud hynny mewn mannau eraill.
"Erbyn hyn mae gan Prestatyn yn hollol gywir ganolfan fancio ac mae ond yn iawn fod gan dref maint Dinbych un hefyd.
"Rydych chi'n aml yn clywed y ddadl hon ar olwynion allan nad yw pobl yn defnyddio gwasanaethau bancio traddodiadol mwyach.
"Ond y gwir amdani yw bod llawer iawn o bobl leol yn dal i ddibynnu ar ddefnyddio arian parod. Yn syml, nid yw'n wir bod pawb yn symud i wasanaethau ar-lein."
Dywedodd cynghorydd Dinbych, Rhys Thomas, sy'n Ddirprwy Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych: "Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych yn cefnogi'r ddeiseb hon yn llawn gan alw am greu hwb bancio newydd yn Ninbych.
"Mae hwn yn gyfle i bobl leol sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ac felly rydym yn annog cymaint o bobl â phosibl i gefnogi'r mater a'i gwneud yn glir i LINK bod galw sylweddol yn Ninbych am y gwasanaeth hanfodol hwn."
I arwyddo'r ddeiseb hon cliciwch yma
Pryderon am sefydlu parc cenedlaethol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Mae pryderon wedi eu codi y gallai cynlluniau i greu parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru wneud prisiau tai yn anfforddiadwy i bobl leol.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu parc cenedlaethol wedi'i leoli o amgylch Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, sydd eisoes wedi'i ddynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
Pe bai'r cynlluniau'n mynd yn eu blaen, hwn fyddai'r pedwerydd parc cenedlaethol yng Nghymru ochr yn ochr ag Eryri, Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog. Cafodd cynlluniau drafft yn dangos ardaloedd y gellid eu cynnwys eu datgelu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym mis Hydref y llynedd, gan gynnwys rhannau o Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Phowys.
Roedd yr addewid i sefydlu parc cenedlaethol newydd cyntaf Cymru ers 1957 yn rhan o faniffesto Llafur Cymru yn etholiad diwethaf y Senedd yn 2021.
Ond mae ofnau wedi eu codi gan wleidydd Plaid Cymru y gallai arwain at gynnydd mewn prisiau tai mewn lleoliadau sydd wedi'u cynnwys yn y parc.
Dywedodd Llyr Gruffydd y gallai hefyd arwain at broblemau gyda pharcio a thraffig, tebyg i'r rhai a brofir gan drigolion Eryri.
Wrth annerch Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gynllunio, yn siambr y Senedd, dywedodd: "Rwy'n ymwybodol bod effeithiau posibl ar fforddiadwyedd tai yn yr ardal honno i drigolion lleol a allai gael eu heffeithio'n anfwriadol gan y dynodiad.
"Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r angen i fuddsoddi mewn seilwaith priodol.
"Er mor werthfawr ydi cael ymwelwyr newydd i'r ardal, mae angen i ni osgoi sefyllfa lle rydyn ni'n efelychu rhai o'r heriau rydyn ni wedi'u gweld yn Eryri, lle bu problemau parcio, ffyrdd wedi'u blocio a diffyg cyfleusterau cyhoeddus digonol.
"Pa sicrwydd allwch chi ei roi i ni, fel rhan o'r gwaith o baratoi tuag at barc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru, bod yr holl ffactorau hyn yn cael eu hystyried?"
Mae CNC wedi cael y dasg gan weinidogion i werthuso'r achos dros y parc newydd ac fe'i hysbysebwyd yn flaenorol i ymgynghorwyr gynnal asesiad o ardaloedd y gellid eu cynnwys.
Bydd gofyn iddynt ddarparu crynodeb o'u canfyddiadau, gan gynnwys ffin ddrafft manwl o'r ardal dan sylw.
Mae CNC eisoes wedi cynnal sawl digwyddiad ymgynghori i'r cynigion, gyda map dros dro yn cynnwys lleoliadau fel Twyni Gronant, Mynydd Hôb, Dyffryn Ceiriog a Llyn Efyrnwy.
Mae CNC wedi cael y dasg gan weinidogion i werthuso'r achos dros y parc newydd ac fe'i hysbysebwyd yn flaenorol i ymgynghorwyr gynnal asesiad o ardaloedd y gellid eu cynnwys.
Bydd gofyn iddynt ddarparu crynodeb o'u canfyddiadau, gan gynnwys ffin ddrafft fanwl o'r ardal dan sylw.
Mae CNC eisoes wedi cynnal sawl digwyddiad ymgynghori i'r cynigion, gyda map dros dro yn cynnwys lleoliadau fel Twyni Gronant, Mynydd Gobaith, Dyffryn Ceiriog a Llyn Efyrnwy.
"Roeddwn i yn Eryri yn ddiweddar iawn ac roeddwn i'n cael gwybod am nifer y cerddwyr sy'n ystyried eu hunain yn warcheidwaid yr amgylchedd ond sy'n meddwl ei bod hi'n iawn gollwng eu croen banana ar y ffordd, oherwydd maen nhw'n meddwl ei fod yn fioddiraddadwy.
"Mae'r ffaith ei fod yn llawn o bethau na ddylid eu canfod yn yr amgylchedd hwnnw yn un o'r pethau maen nhw wedi bod yn gweithio'n galed iawn arno."
Ychwanegodd: "Roeddwn yn drist iawn o weld yr ystadegau sy'n dangos, ar y rhan fwyaf o'r prif lwybrau i fyny'r Wyddfa, bod halogiad bob dwy droedfedd gyda rhyw fath o sylwedd na ddylai fod yno.
"Mae helpu'r parciau cenedlaethol yn helpu eu hymwelwyr i ddeall effaith twristiaeth, a'r hyn y gallant ei wneud i wella'r amgylchedd hwnnw a pheidio â chymryd oddi wrtho, yn bwysig."
Dywedodd Ms James bod disgwyl i benderfyniad terfynol ar y cynlluniau gael ei wneud y flwyddyn nesaf.
Croesawu £1,500 o gyfraniad i Gaffi Atgyweirio Rhuthun
Yn ddiweddar croesawodd Llyr Gruffydd AS y newyddion bod Enfinium, y prosesydd ynni o wastraff, wedi neilltuo £1,500 o gyllid i Gaffi Atgyweirio Rhuthun, a leolir yn Sir Ddinbych, i'w helpu i atgyweirio nwyddau, lleihau gwastraff cartref diangen, ac arbed arian i deuluoedd lleol.
Mae Caffi Atgyweirio Rhuthun, sy'n seiliedig yn y gymuned, wedi bod yn atgyweirio nwyddau cartref i drigolion lleol ers mis Chwefror 2020. Yn rhedeg unwaith y mis, mae ein tîm o 25 o wirfoddolwyr wedi helpu i drwsio 963 o eitemau hyd yma ar draws 31 o ddigwyddiadau Caffi Atgyweirio. Y gwaith atgyweirio mwyaf cyffredin yw trydan, yn enwedig tostwyr a glanhawyr gwactod, ac yna trwsio gwnïo, fel teganau meddal a dillad.
Bydd y cyllid grant yn talu am y costau rhedeg, gan gynnwys llogi ystafelloedd a nwyddau traul, ac yn galluogi hyfforddiant i'n gwirfoddolwyr ddatblygu eu sgiliau mewn meysydd fel hyfforddiant cymorth cyntaf, hogi offer ac ardystio profion diogelwch PAT, sy'n hanfodol ar gyfer atgyweirio eitemau trydanol.
Mae pob eitem sy'n cael ei hatgyweirio yn arbed teulu o'r gost o'i ddisodli, yn lleihau faint o wastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi sy'n niweidiol i'r hinsawdd ac yn lleihau allyriadau carbon. Er enghraifft, canfuwyd bod cynnal teledu sengl am 7 mlynedd ychwanegol yn arbed yr hyn sy'n cyfateb i 657kg CO2.
Ym mis Mawrth 2024, lansiodd Enfinium ei 'Gronfa Cymorth Caffi Atgyweirio' gwerth £60,000, a sefydlwyd i gefnogi caffis o fewn radiws 30 milltir i un o gyfleusterau enfiniwm yng Nghaint, Gogledd Cymru, Gorllewin Swydd Efrog neu Orllewin Canolbarth Lloegr. Gall Caffis Atgyweirio Cymwys wneud cais am gyllid o hyd at £1,500 y flwyddyn cyn y dyddiad cau ar 31 Mai.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: "Rwy'n falch iawn bod caffi atgyweirio Rhuthun wedi derbyn yr arian hwn gan enfiniwm. Bydd yn galluogi gwirfoddolwyr i sicrhau bod eitemau a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi yn gallu cael eu hailgylchu, eu hailddefnyddio a'u hailbwrpasu. Mae'n syniad syml ond rhyfeddol o effeithiol sydd o fudd i'r amgylchedd a hefyd yn arbed arian i bobl ar adeg pan fo'r argyfwng costau byw yn broblem wirioneddol iawn i gynifer o deuluoedd. Byddwn yn annog unrhyw gaffis atgyweirio eraill sydd o fewn 30 milltir i gyfleuster Parc Adfer Glannau Dyfrdwy i wneud cais am arian gan enfiniwm."
Dywedodd Mike Maudsley, Prif Swyddog Gweithredol enfinium: "Mae trwsio eitemau sydd wedi torri yn rhan hanfodol o leihau faint o wastraff rydym yn ei gynhyrchu. Yn ei dro, mae hyn yn arwain at ddefnydd is, allyriadau carbon is a llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi. Dyna pam rydym yn falch iawn o fod yn dyfarnu cyllid i Gaffi Atgyweirio Rhuthun heddiw, sydd wedi bod yn helpu teuluoedd lleol i leihau gwastraff ac arbed arian ers 2020."
Dywedodd Anne Lewis, Trefnydd Caffi Atgyweirio Rhuthun: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn yr arian hwn gan enfiniwm. Bydd yr arian yn ein galluogi i barhau i helpu i gefnogi trigolion lleol Rhuthun, atgyweirio eu heitemau sydd wedi torri, a darparu hyfforddiant i'n tîm gwych o wirfoddolwyr."
Galw ar y llywodraeth i wneud yn siŵr nad yw pobl sydd â thiwmorau ar yr ymennydd yn disgyn rhwng dwy stôl.
Yn ddiweddar galwodd Llyr Gruffydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw pobl sydd â thiwmorau ar yr ymennydd "yn disgyn rhwng dwy stôl". Roedd hyn yn adleisio rhybuddion gan ymgyrchwyr bod angen gwneud mwy i gael gwared ar rwystrau sy'n bodoli yn y gwasanaeth iechyd.
Yn ddiweddar, cyfarfu Mr Gruffydd AS â chynrychiolwyr o Elusen Tiwmorau'r Ymennydd yn Nhŷ Hywel i ddangos ei gefnogaeth i Fis Ymwybyddiaeth Tiwmorau'r Ymennydd.
Dywed Elusen Tiwmorau'r Ymennydd mai dim ond drwy newid systematig y gellir mynd i'r afael â'r bylchau yn y gwasanaeth iechyd a datblygu Strategaeth Genedlaethol Tiwmor yr Ymennydd cynhwysfawr.
Gall pobl sydd â thiwmor ar yr ymennydd wynebu nifer o faterion, gan gynnwys nifer o gamddiagnosau a theithiau i feddygon teulu, i gael triniaethau llym neu beidio â chael mynediad at y gefnogaeth gan Nyrs Arbenigol Glinigol (CNS) ddynodedig.
Yn ôl The Brain Tumour Charity, mae tiwmorau'r ymennydd yn aml yn syrthio i'r pentwr 'rhy anodd' oherwydd natur y clefyd.
Mae mwy na 120 o wahanol fathau o diwmorau ymennydd a system nerfol ganolog, a all fod yn radd uchel, neu radd isel (heb fod yn falaen). O ganlyniad nid yw'r clefyd yn eistedd yn daclus yn y byd canser na'r clefyd prin.
Mae'r elusen hefyd yn dweud bod canserau'r ymennydd yn aml yn cael eu colli gan raglenni canser y GIG oherwydd y gwahaniaethau o ran sut maen nhw'n dechrau, datblygu ac yn cael eu tracio, o'i gymharu â mathau eraill o ganserau.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: "Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ogystal â llywodraethau ar draws y DU yn sicrhau nad yw pobl sydd â thiwmorau ar yr ymennydd yn disgyn drwy'r craciau yn y system gofal iechyd.
"Mae angen strategaeth wedi'i hystyried yn ofalus i sicrhau bod hyn yn ystyried yr holl gymhlethdodau ac yn rhoi anghenion cleifion yn flaenoriaeth.
"Fel gydag unrhyw afiechyd, y cyflymaf y gellir ei ddal y mwyaf tebygol yw hi i gleifion gael canlyniad positif.
"Dyna pam ei bod yn bwysig mynd i'r afael â'r rhwystrau y gall cleifion eu hwynebu wrth geisio mynd i gael diagnosis, a chael mynediad at ofal a thriniaeth.
"Mae sicrhau bod cleifion yn gallu cael diagnosis cyflymach yn gallu agor mwy o opsiynau i gleifion a'u teuluoedd gael digon o gefnogaeth.
"Gall hefyd ehangu cwmpas opsiynau cymryd rhan mewn ymchwil, lleihau difrifoldeb y symptomau, yn ogystal â helpu cleifion i wrthsefyll triniaethau llym yn well a lleihau'r angen am lawdriniaeth frys a risg uwch."