Mae bwrdd iechyd a dreuliodd bum mlynedd mewn mesurau arbennig yn wynebu beirniadaeth bellach wedi adroddiad newydd damniol mewn i Adran Frys Ysbyty Glan Clwyd.
Cwestiynodd Llŷr Gruffydd, AS Plaid Cymru dros ogledd Cymru, pam y tynnwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ar ôl dau adroddiad damniol i wasanaethau allweddol - y gwasanaeth fasgwlar oedd y llall - yn y mis diwethaf.
Dywedodd Mr Gruffydd: "Synnwyd rhai pan gymerwyd Betsi allan o fesurau arbennig ychydig cyn etholiadau'r Senedd y llynedd. Doedd Plaid Cymru ddim wedi'n argyhoeddi fod y Bwrdd Iechyd wedi troi cornel a gwneud y gwelliannau angenrheidiol. Yn anffodus rydym wedi cael ein profi'n iawn gyda dau adroddiad damniol newydd i wasanaethau allweddol.
"Mae staff y GIG wedi eu clodfori am eu gwaith arwrol yn ystod y pandemig, yn gwbl briodol. Aethon nhw tu hwnt i'r hyn oedd yn ddisgwyliedig ac maen nhw dal i deimlo pwysau Covid hir a straen parhaol y pandemic ar y GIG. Ond mae problemau BIPBC yn dyddio o cyn yr pandemic. Mae methiant hir sefydlog o ran cynllunio'r gweithlu, gyda miliynau'n cael eu gwario bob mis ar staff asiantaeth yn hytrach na buddsoddi yn y hir dymor o ran hyfforddiant, recriwtio ac - yn hollbwysig - cadw staff medrus. Mae llawer yn gadael oherwydd fod prinder staff, sy'n golygu fod llawer o weithwyr meddygol profiadol yn rhoi'r gorau i'w swyddi. Mae'n gylch dieflig nad yw'r bwrdd presennol yn gallu mynd i'r afael a hi na'i wrthdroi. Rwy'n derbyn nad yw hyn yn broblem unigryw i Betsi, ond mae'n ymddangos bod yr effaith yn llawer mwy difrifol o ran gofal cleifion a moral staff o dan awdurdod y bwrdd.
"Mae gan Lywodraeth Cymru cwestiynau i'w ateb. Pam gymerwyd BIPBC allan o fesurau arbennig cyn etholiadau’r Senedd y llynedd ar ôl pum mlynedd o broblemau parhaus? Ai chwarae gemau gwleidyddol yn unig oedd hyn? Dyna yw'r casgliad anochel pan welwn broblemau strwythurol parhaus fel y rhai a amlygwyd yn adroddiad diweddaraf Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
"Mynegodd cadeirydd y bwrdd ei hun, Mark Polin, yn cyfarfod y bwrdd wythnos ddiwethaf ei rwystredigaeth efo methiannau parhaus yn y gwasanaeth.
"Ni all y bwrdd gario mlaen o un argyfwng i'r llall. Dydi hi ddim yn deg i staff chwaith, maent yn haeddu gwell. Dwi eisiau gweld y bwrdd i lwyddo, a dwi eisiau mynegi fy nghefnogaeth lawn i'r staff, ond fedrai ddim sefyll i un ochr wrth i fethiant ddilyn methiant. Mae angen strategaeth glir oddiwrth y Gweinidog Iechyd a Llywodraeth Cymru - nhw gymerodd y bwrdd allan o fesurau arbennig ac mae'n rhaid iddyn nhw esbonio'n llawn y rhesymau dros y dewis hwn, yn enwedig pan nad yw'r bwrdd wedi gwella."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter