Llyr Gruffydd AS yn cefnogi ymgyrch i achub ein Meddygfeydd
Yn ddiweddar ymrwymodd Llyr Gruffydd i gefnogi meddygon sy'n ymgyrchu i achub ac ariannu meddygfeydd yn well, gan ddweud bod gofal sylfaenol yn cael ei ystyried yn wasanaeth Sinderela gyda'r Gwasanaeth iechyd Gwladol. Dywedodd Mr Gruffydd bod cynnal meddygfeydd ym mhob rhan o'r rhanbarth yn hanfodol er mwyn sicrhau mynediad teg i bob claf.
Ychwanegodd: "Mae meddygon yng Nghymru, drwy’r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA), yn amlygu'r pwysau mae meddygon teulu yn eu hwynebu ac rwy'n gwybod bod llawer o feddygfeydd yn rhanbarth y gogledd yn wynebu heriau enfawr o ran recriwtio meddygon teulu a chynnal gwasanaethau, yn enwedig mewn rhai ardaloedd gwledig. Rwy'n falch o ddweud bod ymgyrch recriwtio ddiweddar ym Metws y Coed, lle roedd meddygfa mewn perygl o gau, yn llwyddiant ond mae heriau parhaus mewn sawl maes.
"Roedd yn bleser siarad ag aelodau BMA Cymru, Dr Phil White, Dr Sara Bodey a Dr Paul Emmett i ddysgu mwy am faterion llwyth gwaith ac adeiladau problemus. Rwy'n gwybod o fy ymgyrchu dros adeilad meddygfa newydd yn Hanmer, er enghraifft, pa mor bwysig yw hynny ar gyfer gwell gofal i gleifion.
"Mae gennym boblogaeth oedrannus a llai iach sy'n tyfu ac mae hyn yn rhoi pwysau enfawr ar ein gwasanaeth iechyd. Gan mai meddygon teulu yw'r man galw cyntaf i gleifion, mae'n bwysig eu bod yn cael digon o adnoddau.
"Mae gan Blaid Cymru bolisi hirsefydlog i gynyddu nifer y meddygon yng Nghymru ac mae hynny hefyd yn golygu mwy o feddygon teulu - yn 2012 roedd gan feddyg teulu gyfartaledd o 1719 o gleifion, heddiw mae ganddyn nhw 2318 ar gyfartaledd. Mae gennym hefyd 25% yn llai o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn o'i gymharu â degawd yn ôl ac mae cyfran y GIG Cymru a ariennir i feddygon teulu wedi gostwng o 8.7% yn 2005/6 i 6.1% yn 2022-3. Mae hynny'n ostyngiad sylweddol ac yn helpu i esbonio tra bod gofal sylfaenol yn aml yn cael ei weld fel gwasanaeth Sinderela yn ein GIG.
"Bydd cael ysgol feddygol yma yn y Gogledd yn darparu ateb dros amser ac roedd honno'n ymgyrch galed gan Blaid Cymru. Rydym wedi ymrwymo i wella ein GIG ac yn benodol gofal sylfaenol gydol fy nghyfnod fel Aelod o’r Senedd, ond nid yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi blaenoriaethu'r angen hwnnw. Mae angen yr ewyllys wleidyddol arnom i wneud y newidiadau sydd eu hangen i wella ein gwasanaeth iechyd, fel arall byddwn yn parhau i weld meddygon teulu yn gadael y gwasanaeth iechyd yn gynnar oherwydd pwysau gwaith."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter