Capsiwn: Llyr Gruffydd AS. gydag ymgyrchwyr lleol yng Nglasfryn.
Mae pryderon goryrru trwy bentref ar yr A5 wedi ysgogi trigolion lleol i lwyfannu protest liwgar.
Roedd pentrefwyr yng Nglasfryn ger Cerrigydrudion yn chwifio placardiau ac yn galw ar fodurwyr i arafu wrth iddynt ysbïo trwy'r unig bentref ar yr A5, lon sy’n ymestyn o Gaergybi i'r Amwythig lle does dim cyfyngiadau cyflymder arni.
Cafodd y brotest ei threfnu gan y cynghorydd Plaid Cymru lleol, Gwennol Ellis, a ddywedodd: "Mae 'na ofn gwirioneddol y bydd yn rhaid i rywun farw cyn bod yr awdurdodau'n cymryd camau. Rwyf wedi codi hyn gyda'r heddlu ac, er eu bod yn ymwybodol o bryderon, nid ydynt yn penderfynu ar derfynau cyflymder. Mater i'r cyngor sir yw hynny ac yn y pen draw, gan fod yr A5 yn gefnffordd, Llywodraeth Cymru.
"Mae pentrefwyr yn poeni am ddiogelwch plant yn enwedig a fyddwn ni ddim yn rhoi'r gorau i ymgyrchu nes bod Llywodraeth Cymru'n gweld synnwyr a bod y terfyn cyflymder yn cael ei ostwng i 30mya trwy'r pentref."
Hefyd yn bresennol oedd Llyr Gruffydd, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, a ychwanegodd: "Er ein bod ar ochr y ffordd, roedd hi'n amlwg pa mor gyflym roedd rhai cerbydau'n goryrru drwy'r pentref ac mae'n amlwg yn bryder dedwydd i drigolion, yn enwedig i rieni sydd â phlant. Mae achos da dros osod cyfyngiadau cyflymder drwy'r pentref ac rwy'n llwyr gefnogi y Cynghorydd Ellis a thrigolion lleol yn eu hymgyrch.
"Dyw aros am ddamwain i ddigwydd ddim yn ddigon da. Mae angen i ni fod yn rhagweithiol i ddiogelu ein plant ac mae hynny'n golygu lleihau cyflymder trwy'r pentref."
Mae deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu eisoes wedi cyrraedd y cam hanner ffordd i gael ei drafod yn y Senedd. Os hoffech arwyddo, cliciwch yma: https://petitions.senedd.wales/petitions/245278?fbclid=IwAR1XLfyK4SU0rZuiEBWGQc8bu798aHiO4JcrUNcWVO1BeZxYcEgUaEChhZQ
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter