Byddai adolygiad annibynnol o raglen 'Cymru'n Gweithio' Llywodraeth Cymru, datganoli ysgogiadau economaidd, aelodaeth o'r farchnad sengl a chreu 'Ffyniant Cymru' - asiantaeth datblygu economaidd ar gyfer yr 21ain ganrif, yn rhoi economi Cymru "ar y ffordd i adferiad", dadleuodd Mr Gruffydd.
Dywedodd Arweinydd Gweithredol Plaid Cymru, Llyr Gruffydd:
"Mae'r rhain yn ystadegau brawychus gan yr ONS sy'n cynrychioli ergyd ddwbl i Gymru.
"Mae un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn anweithgar yn economaidd gyda 159,000 yn dioddef salwch hirdymor.
"Mae hyn yn adlewyrchu'n wael ar agwedd laissez-faire llywodraethau'r DU a Chymru sydd naill ai'n gwneud rhy ychydig neu'n cymryd gormod o amser i roi mesurau ar waith i helpu gweithwyr a'r rhai sy'n chwilio am waith
"Mae cynllun 'Pedwar Cam Ymlaen' Plaid Cymru yn cynnig adolygiad annibynnol o raglen 'Cymru'n Gweithio' Llywodraeth Cymru, datganoli ysgogiadau economaidd o San Steffan, ail-ymuno â marchnad sengl yr UE, a chreu 'Ffyniant Cymru' - asiantaeth datblygu economaidd ar gyfer yr 21ain ganrif.
"Ni all Cymru wireddu ei photensial economaidd yn llawn nes bod ganddi'r holl offer angenrheidiol i'n galluogi i deilwra polisïau i gwrdd â'n heriau unigryw megis cyflogau isel a phoblogaeth sy'n heneiddio.
"Byddai'r pedwar cynnig yma yn helpu i roi economi Cymru ar y ffordd i adferiad ac yn chwistrellu uchelgais i ddulliau Llywodraeth Cymru a'r DU o greu swyddi a chynhyrchu twf."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter