Preifatrwydd

Polisi preifatrwydd Plaid Cymru – the Party of Wales

Hwn yw ein polisi preifatrwydd. Mae ar gyfer pawb sy’n dod i gysylltiad â ni – etholwyr, aelodau, pobl ifanc a’r rhai sy’n rhoi arian i ni.

Mae’r polisi ar gael mewn ffurf arall megis ffont fras. Os ydych yn dymuno cael copi mewn ffurf arall, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data.

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn dangos ein hymrwymiad i amddiffyn eich gwybodaeth personol.

Byddwn bob tro yn prosesu’ch gwybodaeth personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Mae pleidiau gwleidyddol yn casglu gwybodaeth am farn wleidyddol pobl. Mae hwn yn berffaith iawn ac er budd i’r cyhoedd, cyn belled â bod eich data yn cael ei ddiogelu. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn rhoi gwybodaeth i chi am sut ydym yn diogelu eich gwybodaeth personol.

Cysylltu â ni am eich hawliau gwybodaeth

Os ydych am ragor o wybodaeth am y ffordd rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth personol, neu i ddefnyddio’ch hawliau gwybodaeth, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn y ffyrdd canlynol.

Post: Plaid Cymru, Tŷ Gwynfor, Llys Anson, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4AL
Ebost: [email protected]
Ffôn: 02920 472272

Y gwybodaeth rydym yn ei brosesu

Rydym yn prosesu gwybodaeth personol pob person ar gofrestr etholiadol Cymru. Rydym yn gwneud hwn er mwyn i ni ysgogi pobl i ymwneud â gwleidyddiaeth, yn ogystal â hybu ein gweledigaeth wleidyddol. Rydym yn prosesu’ch barn wleidyddol os ydych yn ei rhoi i ni yn uniongyrchol neu os ydynt ar gael yn gyhoeddus. Rydym hefyd yn prosesu gwybodaeth ar farn wleidyddol ein haelodau, ein cefnogwyr, ein gwirfoddolwyr a’r sawl sy’n rhoi arian i ni.

Ni fyddwn yn cyhoeddi’ch gwybodaeth (gan gynnwys eich barn wleidyddol) oni bod yn rhaid i ni wneud o dan y gyfraith.

Ni fyddwn fyth yn gwerthu’ch gwybodaeth i gwmnïau eraill. Weithiau rydym yn rhannu’ch gwybodaeth gyda chwmnïau sy’n ein helpu gyda’n gwaith, ond dim ond os bydd gennym yr hawl gyfreithiol i’w wneud. Er enghraifft, byddwn yn rhannu enwau a chyfeiriadau gyda’r cwmnïau sy’n anfon ein taflenni etholiadol atoch.

Y gwybodaeth rydym yn ei gasglu

Etholwyr Cymru

Rydym yn derbyn copi o’r cofrestrau etholiadol gan awdurdodau lleol Cymru. Mae’r cofrestrau yma’n rhoi’r gwybodaeth canlynol i ni.

  • Eich enw
  • Eich cyfeiriad
  • Eich dyddiad geni (os ydych yn 16, 17 neu’n 18)
  • Eich rhif cofrestr etholiadol (sy’n ein galluogi i wybod ble y byddwch yn pleidleisio mewn etholiadau a refferenda)
  • Os oes pleidlais post â chi
  • Os pleidleisioch mewn etholiad neu refferendwm (ond ddim i ba gyfeiriad y pleidleisioch)

Os ydym yn cysylltu â chi i ofyn am eich barn wleidyddol ac y byddwch yn rhoi’r gwybodaeth yna i ni, byddwch yn cofnodi’r gwybodaeth. Rydym yn gwneud hyn fel bo modd i ni:

  • Penderfynu a ddylem anfon ein deunydd ymgyrchu atoch chi;
  • Penderfynu pa ddeunydd ymgyrchu y dylem anfon atoch chi; a
  • Penderfynu a ydym yn credu eich bod yn debygol o bleidleisio, ac am ba blaid neu achos (mewn refferendwm)

Y sail gyfreithiol (rheswm) i ni brosesu’r gwybodaeth yw ‘tasg gyhoeddus’. Mae’r sail gyfreithiol yma yn galluogi pleidiau gwleidyddol i brosesu gwybodaeth personol. Gallwch ddarganfod mwy am hwn o’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Aelodau

Pan fyddwch yn ymuno, rydych yn rhoi eich enw a’ch manylion cyswllt. Rydym yn defnyddio’r gwybodaeth yma i roi ein gwasanaethau aelodaeth i chi. Rydym hefyd yn prosesu’ch manylion banc os byddwch yn eu rhoi i ni fel y byddwch yn gallu talu trwy ddebyd uniongyrchol.

Y sail gyfreithiol i ni brosesu’r gwybodaeth yma yw ‘cytundeb’. Dyna achos mae’ch aelodaeth o Blaid Cymru yn golygu ein bod yn rhoi gwasanaeth i chi fel rhan o gytundeb.

Rhoddwyr

Os ydych yn rhoi rhodd i Blaid Cymru, byddwn yn prosesu’ch gwybodaeth personol er mwyn sicrhau bod yr arian yn cyrraedd ein cyfrif banc.

Mae’n rhaid i ni hefyd prosesu’ch gwybodaeth personol o dan yr amodau canlynol:

  • Os ydych yn rhoi mwy na £500 mae’n rhaid i ni wirio eich bod ar y gofrestr etholiadol â’r hawl i bleidleisio. Mae’n rhaid i ni hefyd gofnodi’ch enw a’ch cyfeiriad.
  • Os ydych yn rhoi mwy na £7,500, mae’n rhaid i ni gofrestru eich enw, a maint y rhodd, gyda’r Comisiwn Etholiadol. Mae’r Comisiwn yn cyhoeddi eich enw ar gofrestr gyhoeddus.

Rydym yn cadw cofnod o’r rhoddion llai ar ein cronfa ddata.

Y sail gyfreithiol am brosesu’ch rhoddion yw ‘buddiannau cyfreithiol’. Y sail gyfreithiol am brosesu eich gwybodaeth os byddwch yn rhoi mwy na £500 yw ‘rhwymedigaeth gyfreithiol’.

Cefnogwyr

Pan fyddwch yn dod yn gefnogwr Plaid Cymru ar-lein, byddwn yn cofnodi’ch cefnogaeth ar ein cronfa ddata. Y sail gyfreithiol am brosesu’r gwybodaeth yma yw ‘tasg gyhoeddus’.

Gwirfoddolwyr

Pan fyddwch yn gwirfoddoli gyda ni, byddwn yn cofnodi sut ydych yn dymuno helpu. Y sail gyfreithiol am brosesu’r gwybodaeth yma yw ‘tasg gyhoeddus’.

Y sawl sy’n mynd i’n digwyddiadau

Os byddwch yn cadarnhau y byddwch yn mynd i un o’n cynadleddau neu ddigwyddiadau, byddwn yn cadw eich manylion cyswllt ar ein cronfa ddata. Y sail gyfreithiol am brosesu’ch rhoddion yw ‘buddiannau cyfreithiol’.

Gwefan

Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt os ydych yn eu darparu ar ein gwefan. Byddwn yn defnyddio’r gwybodaeth yma i’ch diweddaru gyda pethau sydd o ddiddordeb i chi. Y sail gyfreithiol am brosesu’r gwybodaeth yma yw ‘tasg gyhoeddus’.

Teledu cylch cyfyng

Rydym yn defnyddio teledu cylch cyfyng i sicrhau bod ein staff a’n swyddfa yn ddiogel. Rydym yn cadw’r delweddau am 28 o ddiwrnodau cyn ei ddileu. Mae arwyddion yn hysbysu staff ac ymwelwyr ein bod yn recordio eu delweddau. Y sail gyfreithiol am brosesu’ch rhoddion yw ‘buddiannau cyfreithiol’.

Y sawl rydym yn rhannu eich gwybodaeth â nhw

Na fyddwn byth yn gwerthu’ch gwybodaeth. Weithiau rydym yn rhannu’ch gwybodaeth gyda chwmnïau sy’n ein helpu gyda’n gwaith, ond dim ond os bydd gennym yr hawl gyfreithiol i’w wneud.

Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth â:

  • Cwmnïau dosbarthu post, fel bod etholwyr ac aelodau yn derbyn gwybodaeth
  • Cwmnïau darparu e-bost megis NationBuilder
  • Aelodau etholedig, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr lleol, a
  • Rheoleiddwyr ac asiantau’r gyfraith, pan fydd ei angen am ymchwiliadau.

Pa mor hir rydym yn cadw eich gwybodaeth

Rydym yn adolygu’r gwybodaeth sydd gennym, ei berthnasedd, ac a oes angen i ni ei gadw, yn rheolaidd. Byddwn ond yn cadw eich gwybodaeth mor hir ag y bo angen. Mae ein polisi cadw gwybodaeth yn datgan pa mor hir y byddwn yn cadw gwybodaeth personol. Cysylltwch â ni am gopi.

Cwcis

Ffeil destun fechan bach yw cwci sy’n cael ei storio ar eich cyfrifiadur. Gallwn ddefnyddio cwcis i edrych ar y ffyrdd mae pobl yn symud o gwmpas ein gwefan. Rydym yn eu defnyddio hefyd i fonitro diogelwch y wefan. Fel arfer, gallwch atal cwcis trwy ddefnyddio’r arfau yn eich porwr.

Gallwn storio’r cyfeiriad rhyngrwyd y gwnaethoch ddefnyddio i gysylltu â’n cyfrifiadur, amser a dyddiad cysylltu, gwybodaeth o’r porwr a’r tudalennau aethoch atynt.

Cwcis targedu: Mae'n posib i'n partneriaid hysbysebu osod y cwcis hyn trwy ein gwefan. Gall y cwmnïau hynny eu defnyddio i adeiladu proffil o'ch diddordebau a dangos hysbysebion perthnasol i chi ar wefannau eraill. Nid ydynt yn storio gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol, ond maent yn seiliedig ar adnabod eich porwr a'ch dyfais rhyngrwyd. Os na fyddwch yn caniatáu’r cwcis hyn, ni fydd yr hysbysebion y byddwch yn eu gweld wedi eu targedu gymaint.
google.com
youtube.com

Cwcis perfformiad a dadansoddi:
Google Analytics

Ffeiliau log ac ystadegau

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o systemau technegol i gadw llygad ar y modd mae ein gwefan yn gweithio, gan gynnwys:

  • Cyfeiriadau IP
  • URLs dogfennau a lawrlwythwyd
  • Stampiau amser
  • Asiant-ddefnyddwyr HTTP, a
  • Google Analytics (sydd ei hun yn defnyddio cwcis i ddadansoddi sut y mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan).

Trosglwyddo eich gwybodaeth tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd

Mae rhai o’n darparwyr gwybodaeth â’u canolfannau y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), felly weithiau bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth tu allan i’r AEE. Os byddwn yn trosglwyddo eich data tu allan i’r AEE fe wnawn y siŵr ei fod yn cael ei warchod yn yr un modd â phetai’r gwybodaeth tu mewn i’r AEE.

 Fe wnawn yn siŵr o hyn fel a ganlyn:

  • Byddwn yn anfon y gwybodaeth at ddarparwr gwasanaeth mewn gwlad lle mae’r safonau diogelu data wedi derbyn sêl bendith yr UE
  • Byddwn yn ei drosglwyddo i fudiad sy’n cwrdd â safonau ‘Tarian Preifatrwydd’ yr UE-UDA, a
  • Bydd gennym gontract gyda’r cwmnïau yma, gyda’r telerau yn nodi bod angen iddynt gadw at y safonau angenrheidiol.

Sut rydym yn gwarchod eich gwybodaeth

Mae diogelwch eich gwybodaeth yn bwysig i ni. Rydym yn ei warchod gyda chamau technegol a threfniadol. Byddwn yn adolygu ein camau diogelwch er mwyn gwneud yn siŵr fod eich gwybodaeth yn ddiogel.

Eich hawliau dros eich gwybodaeth 

Byddwn yn gweithredu mor fuan ag sy’n bosib pan fyddwch yn gofyn am arfer unrhyw rai o’ch hawliau data (gweler isod), a fydd ymhen un mis oni fydd eich cais yn arbennig o gymhleth. Os felly, byddwn yn dweud wrthych am yr oedi a’n rhesymau drosto.

Eich hawliau data

Hawl mynediad – gallwch ofyn am gopi o’ch gwybodaeth bersonol a manylion am sut ydym yn ei ddefnyddio. Yr enw cyffredin ar y cais hwn ywcais gwrthrych am wybodaeth

Hawl i unioni – gallwch ofyn i ni gywiro gwybodaeth anghywir neu anghyflawn amdanoch.

Hawl i gael eich anghofio – gallwch ofyn i ni ddileu gwybodaeth amdanoch.

Hawl i gyfyngu prosesu – gallwch ofyn i ni gyfyngu’r modd yr ydym yn prosesu eich gwybodaeth.

Hawl i wrthwynebu - gallwch ofyn i ni roi’r gorau i gysylltu â chi yn bersonol. Ond mae gennym hawl o hyd i anfon taflen wedi ei chyfeirio atoch adeg etholiad, a gallwch ddal i dderbyn taflenni heb eu cyfeirio.

Hawl i wrthwynebu i brosesu data gwleidyddol – gallwch ofyn i ni roi’r gorau i brosesu gwybodaeth am eich barn wleidyddol.

Proffilio

Os oes gennym wybodaeth am eich bwriadau pleidleisio a’ch hanes o bleidleisio, byddwn yn asesu pa mor debygol yw y byddwch yn pleidleisio dros Blaid Cymru. Proffilio yw’r enw am hyn, ac nid ydym yn meddwl fod hyn yn cael effaith arwyddocaol arnoch chi.

Gwneud cwyn 

Os nad ydych yn hapus am y modd rydym wedi prosesu neu drin eich gwybodaeth, gallwch gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG). SCG yw’r corff goruchwylio a awdurdodir gan Ddeddf Diogelu Data 2018 i reoleiddio’r ffordd mae gwybodaeth personol yn cael ei gasglu, ei ddefnyddio a’i storio yn y Deyrnas Gyfunol. Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk/concerns/

Cyhoeddwyd y fersiwn hon o’r polisi preifatrwydd ar Ragfyr 18, 2019.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd