Yn ddiweddar mynegodd Llyr Gruffydd AS bryderon difrifol ynghylch maint y datblygiad tai ar raddfa fawr yn Sir y Fflint.
Mae datblygiad enfawr o 300 o gartrefi a fyddai'n uno dau bentref i bob pwrpas wedi'i gondemnio gan Aelod Senedd Plaid Cymru yn y Gogledd.
Bu Llyr Gruffydd AS yn ymweld â safle Gladstone Way yn ddiweddar i weld maint y datblygiad iddo'i hun. Bydd yr ystâd dai arfaethedig yn ymuno â phentrefi Penarlâg a Mancot i greu'r hyn a ddisgrifiodd fel "un cytref enfawr.
"Bydd y datblygiad hwn yn effeithio'n ddifrifol ar seilwaith lleol. Mae'r ysgol, meddygfeydd lleol a'r rhwydwaith ffyrdd lleol eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Bydd y datblygiad hwn ond yn gwneud pethau'n waeth.”
Mae ymgyrchwyr lleol eisoes wedi cyflwyno 2,500 o wrthwynebiadau wrth i'r cais cynllunio ddod gerbron pwyllgor cynllunio Cyngor Sir y Fflint yn ddiweddarach y mis hwn. Fe wnaeth Mr Gruffydd gyfarfod ag ymgyrchwyr a'r cynghorydd lleol Sam Swash ger y safle i ddysgu am eu pryderon.
Dywedodd y Cynghorydd Swash: "Yr ymgyrch yn erbyn y datblygiad tai hwn fu'r mwyaf o'i fath yn hanes diweddar Sir y Fflint. Er gwaethaf hynny, mae wedi'i gyflwyno o hyd fel safle a ddyrannwyd yng Nghynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint, gan arwain at gyflwyno'r cais cynllunio hwn. Mae'n cynrychioli penllanw tirfeddianwyr, datblygwyr preifat, y Cyngor Sir, a Llywodraeth Cymru yn ymuno er budd elw preifat ar draul trigolion Penarlâg a Mancot.
Rydym yn croesawu'n fawr gefnogaeth Llyr Gruffydd i'n hymgyrch i wrthwynebu'r cynllun anghyfrifol di-hid hwn, yn ogystal ag ymdrechion Llyr a'i gydweithwyr yn y Senedd i ddatgelu natur gwrth-ddemocrataidd Cynlluniau Datblygu Lleol yng Ngogledd Cymru, o Sir y Fflint i Wrecsam.”
Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Rhaid i adran gynllunio Cyngor Sir y Fflint ystyried y pryderon lleol ynglŷn â'r datblygiad. Er bod angen cartrefi newydd yn yr ardal, nid yw'r datblygiad hwn yn addas ar gyfer cymuned fel Penarlâg.”
"Mae angen i bolisi cynllunio fod yn llawer mwy empathig i anghenion lleol wrth ystyried datblygiadau tai. Mae angen mwy o ddarpariaeth tai arnom, ond yr angen i fod y cartrefi cywir yn y mannau cywir. Rwyf hefyd yn pryderu am golli tir amaethyddol ar adeg pan mae angen i ni ystyried diogelwch bwyd. Mae'n eironig, ynte, fod Llywodraeth Lafur Cymru yn mynnu bod ffermwyr yn neilltuo tir amaethyddol ar gyfer coed a chynefin bywyd gwyllt tra ar y llaw arall yn galluogi datblygwyr tai mawr i gladdu rhannau helaeth o'n cefn gwlad gan concrid a tharmac."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter