Pryderon dros rybudd y Gweinidog Iechyd – ‘You ain’t seen nothing yet’

AS Plaid yn herio’r Prif Weinidog ar doriadau ariannol i fwrdd iechyd

Heriwyd Llywodraeth Cymru gan AS Plaid Cymru i ddatgelu’r gwir am unrhyw doriadau ariannol sydd ar y gorwel ar gyfer byrddau iechyd, yn dilyn datganiad pryderus y Gweinidog Iechyd “You ain’t seen nothing yet” i gynulleidfa GIG yr wythnos hon ynglŷn â phwysau ariannol.

Soniodd yr aelod seneddol dros Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd, am yr achos wrth ofyn i’r Prif Weinidog Mark Drakeford a fyddai hyn yn arwain at doriadau ar gyfer byrddau iechyd megis bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

Yng nghinio ffederasiwn y GIG ar ddydd Llun, rhoddwyd awgrym o gyfyngiadau pellach ar wariant byrddau iechyd yng Nghymru gan y

Gweinidog Iechyd, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd bellach mewn mesurau arbennig yn dilyn blynyddoedd diweddar o heriau ac afreoleidd-dra ariannol.

Yng nghyd-destun toriadau ar gyfer byrddau iechyd yng Nghymru, datganodd y Gweinidog Iechyd: “You ain’t seen nothing yet.”

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod holl fyrddau iechyd ar draws Cymru yn wynebu monitro ariannol dwysach o ganlyniad i “heriau ariannol eithafol”. Dywedodd ei bod yn paratoi’r cyhoedd ar gyfer “penderfyniadau anodd” yn sgil toriadau gyda rhagfynegiad o orwariant gwerth £800 miliwn erbyn gwanwyn 2024.

Ers 2012, mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi bod yng nghanol llinach o sgandalau a phryderon ariannol ac fel canlyniad, cafodd nifer o gyfarwyddwyr anweithredol ar y bwrdd eu diswyddo yn gynharach eleni.

Ym Medi 2022, darganfuwyd camddatganiadau anghywir a bwriadol yng nghyfrifon blwyddyn ariannol 2021-22 y bwrdd.

Yn ddiweddar, datgelwyd bod cyn-gyfarwyddwr nyrsio a bydwreigiaeth y bwrdd wedi’i thalu teirgwaith yr uchafswm a ganiateir yn ôl rheolau Llywodraeth Cymru. Talwyd swm cywerth â £465,000 y flwyddyn i Gaynor Thomason yn ystod ei chyfnod ar y bwrdd.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, heriodd Llyr Gruffydd y llywodraeth ar eu camreolaeth wrth ariannu’r bwrdd gan bwysleisio’r “wasgfa eithriadol” ar y byrddau gyda chyfyngiadau cyllid pellach ar y gorwel. Gofynnodd i’r Prif Weinidog gadarnhau a fydd gofyn am doriadau yng nghyllideb eleni.

Yn dilyn y ddadl, ychwanegodd Llyr Gruffydd: “Tra bo’r llywodraeth yn cyfyngu gwariant ar gyfer byrddau yng Nghymru, caiff symiau helaeth o arian eu gwastraffu a’u camreoli ym mwrdd mwyaf Cymru, sydd o dan fwy o straen heddiw nag erioed.

Gwyddwn fod cefnogaeth gan Lywodraeth y DU wedi bod yn broblem ers 15 mlynedd, ond ni all y Prif Weinidog barhau i ddefnyddio’r un hen guddfan drwy feio Llywodraeth y DU, yn hytrach na derbyn bod rheolwyr Betsi yn gwastraffu miliynau ar ymgynghorwyr costus ac anwybyddu’r angen i gadw, hyfforddi a recriwtio staff er mwyn gwella gwasanaethau.

Byddai codi cyflog doctoriaid a nyrsys neu gynnig adnoddau newydd yn ddefnydd llawer mwy buddiol ar gyfer gwasanaeth sydd mewn argyfwng.

Rhaid i’r llywodraeth fod yn glir ar ddyfodol gwasanaethau iechyd Gogledd Cymru. Os ydynt yn rhagweld toriadau gwariant, mae pobl Cymru yn haeddu atebion gan mai eu hiechyd nhw sydd yn y fantol.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gruffudd Jones
    published this page in Newyddion 2023-09-14 12:21:37 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd