Yn ddiweddar galwodd Llyr Gruffydd a Phlaid Cymru am Uwchgynhadledd Genedlaethol ar ddyfodol ffermydd cyngor
Gan gydnabod bod cynghorau ar draws Cymru yn wynebu pwysau ariannol enfawr sy'n rhoi ffermydd cyngor dan fygythiad o gael eu gwerthu er mwyn lleddfu pwysau ariannol, galwodd Llyr Gruffydd AS ar y llywodraeth i weithredu nawr cyn iddyn nhw gael eu colli am byth.
Dywedodd Llyr Gruffydd:
"Rydyn ni'n gwybod bod y pwysau ariannol ar awdurdodau lleol yn gwneud dyfodol ffermydd cyngor yn hynod fregus. Mae cynghorau dan bwysau aruthrol i'w gwerthu i ddod ag incwm i mewn i dalu am wasanaethau eraill. Dyna pam mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithredu'n gyflym i'w diogelu. Mae perygl gwirioneddol bod hyn yn gwerthu rhan bwysig o ddyfodol ffermio.
"Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru ddod â'r holl randdeiliaid allweddol ynghyd mewn Uwchgynhadledd Genedlaethol i drafod sut y gallwn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i ffermydd cyngor. Maen nhw'n borth pwysig i'r diwydiant, yn enwedig i ffermwyr ifanc na fyddent fel arall yn cael cyfle i ffermio. Mae nhw hefyd yn chwarae rhan wrth ddiogelu diogelwch bwyd ac wrth gefnogi economïau a gwasanaethau gwledig ehangach.
"Byddai uwchgynhadledd yn cael pawb o gwmpas y bwrdd i ystyried ffyrdd gwahanol ymlaen. Mae angen cyfle i awdurdodau lleol, undebau ffermio, y Clybiau Ffermwyr Ifanc, Cymdeithas y Ffermwr Tenantiaid, colegau amaethyddol ac eraill ddod â syniadau i'r bwrdd. Gadewch i ni ymchwilio i sut y gellir defnyddio'r ffermydd hyn yn fwy creadigol pan fydd y cyfleoedd yn codi. Gallai'r posibilrwydd o weithio gyda cholegau amaethyddol i roi cyfleoedd i weithredu dulliau newydd ac arloesol o ffermio fod yn rhan arbennig o gyffrous o'r gymysgedd.
"Gallwn gymryd ysbrydoliaeth o'r adeg y bu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru i gynnig bwrsariaethau i ffermwyr ifanc yn Llyndy Isaf yn Eryri. Rhoddodd hyn brofiad gwerthfawr i newydd-ddyfodiaid o reoli ffermydd a chyfle i arloesi wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd ffermio. Dyna'r math o feddwl creadigol a allai fod yn rhan o'n dull o ymdrin â ffermydd cyngor yn y dyfodol.
"Mae'r drafodaeth genedlaethol hon ar ddyfodol ffermydd cynghorau yn hen bryd. Mae'n alwad wnes i yn wreiddiol yn ôl yn 2016 - ond nawr rydyn ni yn y salŵn cyfle olaf. Unwaith y byddant wedi mynd, byddant wedi mynd am byth, felly mae angen i ni weithredu i'w diogelu nawr.
"Dylai pob opsiwn fod ar y bwrdd - ond mae angen i Lywodraeth Cymru yrru'r agenda yma a gwneud iddo ddigwydd - gan ddechrau gydag Uwch-gynhadledd Genedlaethol."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter