Rhaid i'r Prif Weinidog ymddiheuro i ddeintyddion

'Dylai'r Prif Weinidog gywiro datganiadau camarweiniol ar ddeintyddiaeth' - AS Plaid Cymru

Mae AS Gogledd Cymru Plaid Cymru wedi galw ar i'rr Prif Weinidog gywiro datganiadau a wnaed i'r Senedd ynghylch gwasanaethau deintyddol.

Mae Llyr AS Gruffydd eisiau i'r Prif Weinidog Eluned Morgan ymddiheuro i ddeintyddion ar ôl datganiadau camarweiniol i gwestiynau a gododd mewn cyfarfod diweddar o Bwyllgor Craffu ar y Prif Weinidog yn y Senedd.

Dywedodd Mr Gruffydd: “Mae llythyr damniol gan gadeirydd Cymru Cymdeithas Deintyddol Prydain yn ei gwneud yn glir bod y Prif Weinidog wedi camarwain y Senedd ar dri mater hollbwysig ynghylch deintyddiaeth yng Nghymru.

 

Llyr Gruffydd confirmed as Plaid Cymru's interim leader

“Yn gyntaf, mewn ymateb i gwestiwn a ofynnais y mis diwethaf, honnodd fod deintyddion wedi derbyn codiad ariannol mwy na meddygon teulu. Mae'r BDA wedi egluro bod meddygon teulu wedi derbyn 11% tra bod deintyddion wedi cael 6%. Dywed deintyddion nad oedd hyn yn ddigonol i ddelio a chwyddiant uchel a chynnydd sylweddol yng nghostau rhedeg practisau.

“Yn ail, mae hi hefyd yn honni bod canllawiau NICE yn nodi mai dim ond bob dwy flynedd y mae angen i bobl â dannedd iach weld eu deintydd. Canllawiau yn unig yw hyn ac mae'r BDA, sy'n cynrychioli deintyddion, yn ei gwneud yn glir mai 24 mis yw'r cyfnod eithaf a bod angen gweld plant yn arbennig yn llawer amlach. Nid yw datganiad y Prif Weinidog yn ystyried mathau eraill o glefyd y geg y mae deintyddion yn eu trin yn rheolaidd, gan gynnwys clefyd peridontol neu ffactorau risg ar gyfer clefyd. Efallai y bydd angen cyfnod galw-yn-ôl o dri mis ar glaf â dannedd iach ond efo clefyd periodontol.

“Yn olaf, nid oes prinder deintyddion yng Nghymru - y broblem yw eu recriwtio i weithio o fewn y GIG. Mae hynny'n fater o gyllid ac amodau gwaith gwell. Mae'r Llywodraeth Lafur yma wedi methu'n llwyr â gwneud i'r system weithio i gleifion a deintyddion, gan arwain at nifer cynyddol o ddeintyddion yn gadael y GIG.

“Dylai’r Prif Weinidog gywilyddu am gamarwain y Senedd a’r cyhoedd yn fwriadol ynglŷn â’r argyfwng yr ydym yn ei wynebu ym maes deintyddiaeth y GIG. Yn hytrach na lledu anwireddau, mae angen iddi gywiro’r cofnod ac ymddiheuro i’r BDA a phawb arall sy’n gweithio ym maes deintyddiaeth yng Nghymru.”

Mae Mr Gruffydd wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ac at y Llywydd Elin Jones i ofyn i’r Prif Weinidog gywiro’r cofnod yng ngoleuni llythyr y BDA [gweler isod]

 

Image


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2025-04-25 14:32:24 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd