Wythnos arall yn y Sioe!
Mae'r sioe fawr yn Llanelwedd yn gyfle gwych i sgwrsio a chyfarfod, i ddysgu ac i wrando. Wrth gwrs, mae maes y sioe yn lle delfrydol i gwrdd â hen gyfeillion, ac i hel atgofion dros baned.
Diolch unwaith eto i'r holl fudiadau am estyn gwahoddiad eto eleni i sgwrsio a thrafod - er bod y dyddiadur dyddiol yn llawn i'r eithaf gyda chyfarfodydd a chyflwyniadau, roedd digon o amser i grwydro a sgwrsio, ac i lenwi'r car â danteithion lu o gynnyrch gorau cefn gwlad Cymru.
Er bod sioe 2024 newydd orffen, mae'r golygon yn troi yn barod at sioe 2025 - buan iawn y daw honno...
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter