Herio'r Toriaid am dorri budd-daliadau
Mae MS Gogledd Cymru Plaid Cymru wedi herio’r Torïaid i amddiffyn cynlluniau i dorri Credyd Cynhwysol i fwy na chwarter yr holl deuluoedd sy’n byw mewn un etholaeth yn y Gogledd.
Mae arolwg gan Ymddiriedolaeth Joseph Rowntree wedi datgelu mai Dyffryn Clwyd, sy’n cynnwys y Rhyl, Dinbych a Prestatyn, fydd yn un o’r ardaloedd i ddioddef waethaf gyda 26% o’r holl deuluoedd yn hawlio Credyd Cynhwysol neu Gredydau Treth Gweithio.
Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn bwriadu lleihau taliadau Credyd Cynhwysol o £1040 y flwyddyn o fis Hydref.
Dywedodd Llyr Gruffydd, MS Gogledd Cymru Plaid Cymru, y byddai'r toriad yn taro'r rhai mwyaf bregus galetaf ar adeg o gostau byw cynyddol ac ansicrwydd swyddi: "Mae'r Torïaid yn Llundain yn ymddangos yn hapus iawn i daflu biliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus at eu ffrindiau cyfoethog, sydd wedi tyfu'n gyfoethocach ar gontractau PPE ac ati. Nawr maen nhw'n disgwyl i'r tlotaf yn ein cymunedau dalu'r pris gyda'r toriad gwarthus yma o £20 yr wythnos mewn Credyd Cynhwysol.
"Mae gan etholaeth Dyffryn Clwyd rai o'r cymunedau tlotaf yng Nghymru ac mae ymhlith y 10 ardal yr effeithiwyd arnynt waethaf yng Nghymru o ran y toriad yma. Tybed beth yw barn yr AS Torïaidd lleol am yr ymosodiad hwn ar filoedd o deuluoedd lleol? A wnawn nhw barhau i gefnogi Llywodraeth y DU neu a fyddent yn sefyll dros gymunedau dan bwysau?"