Mae Llyr Gruffydd wedi talu teyrnged deimladwy yn y Senedd i Ryan Evans o Wrecsam, gafodd ei ladd yn Wcráin fis diwethaf. Roedd cyn-ddisgybl Ysgol Morgan Llwyd yn gweithio fel ymgynghorydd diogelwch i asiantaeth newyddion Reuters pan gafodd ei westy ei daro gan ymosodiad taflegryn o Rwsia.
Wrth annerch Senedd Cymru, dywedodd Llyr Gruffydd AS:
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i ddyn arbennig iawn o Wrecsam, a gafodd ei ladd yn drasig yn yr Wcrain ym mis Awst. Roedd Ryan Evans yn gweithio gydag asiantaeth newyddion Reuters yn Kramatorsk yn nwyrain y wlad, dim ond 16 milltir o'r ffin gyda Rwsia pan gafodd y gwesty yr oedd yn aros ynddo ei daro gan daflegryn.
"Roedd Ryan yn ymgynghorydd diogelwch i Reuters, ac roedd yn aros yn y gwesty gyda thîm o gyd-newyddiadurwyr. Fe wnaeth y ymosodiad anafu llawer o'i dîm gan gynnwys dyn camera Wcreineg a gafodd ei adael mewn coma gydag anafiadau a fydd yn newid ei fywyd.
"Fel cyn-ddisgybl Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam mae'n cael ei gofio'n annwyl gan staff a chyn-ddisgyblion fel ei gilydd, ac ar ôl gadael yr ysgol ymunodd Ryan â Chatrawd Frenhinol Cymru yn 17 oed lle bu'n gwasanaethu yn Irac yn ogystal ag Affganistan - gan godi i reng Corporal.
"Ar ôl gadael y lluoedd arfog yn 2010 dechreuodd weithio fel swyddog diogelwch personol gyda diplomyddion Prydain ar deithiau i lawer o wledydd gan gynnwys Libya, Tiwnisia a Syria. Yn fwy diweddar, fel arbenigwr diogelwch, aeth gyda newyddiadurwyr i'r ardaloedd peryclaf yn y byd, yn cynnwys sawl mas y gad mewn rhyfeloedd.
"Roedd ei daith olaf yn un o dros 20 yr oedd wedi'i wneud i'r Wcráin ers dechrau'r gwrthdaro - bob amser a'i fryd ar sicrhau diogelwch ei gydweithwyr. a'u cadw rhag niwed.
Talodd Reuters deyrnged i Ryan gan ei ddisgrifio fel 'gweithredwr diogelwch o'r radd flaenaf'. Roedd wedi gweithio'n helaeth yn Israel eleni yn ogystal ag yn Gaza a'r Lan Orllewinol gan ddarparu amddiffyniad i newyddiadurwyr. Yn ddiweddar, bu'n ymdrin â diogelwch i staff Reuters yng Ngemau Olympaidd Paris ac roedd wedi hyfforddi fel parafeddyg, gan helpu sifiliaid a anafwyd ar sawl achlysur.
Yn drist, mae Ryan yn gadael ei weddw, Kerrie, a phedwar o blant.
"Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn y Senedd yn dymuno estyn ein cydymdeimlad dwysaf iddynt hwy a'i deulu ehangach yn eu colled enfawr a phoenus."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter