Mae Llyr Gruffydd AS wedi beirniadu tangyllido "anghynaladwy" cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru, ac wedi rhybuddio bod peidio ariannu cartrefi gofal yn iawn yn "economi ffug" allai arwain at flocio gwelyau mewn ysbytai.
Amlygodd y ffaith fod gofal yn dod i dderbyn llai o arian gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am ddarparu gofal iechyd parhaus nag y maen nhw'n ei dderbyn gan awdurdodau lleol am ofalu am bobl sydd ag anghenion gofal llai dwys - gydag un cartref gofal yng Nghonwy yn derbyn £6,000 yn llai y flwyddyn ar gyfer pob un preswylydd.
Fe wnaeth Mr Gruffydd herio Gweinidog Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden ar y mater yn ystod dadl yn y Senedd, mae nifer o gartrefi gofal ar draws Gogledd Cymru yn pryderu am y ffordd y mae'r sector yn cael ei ariannu ar hyn o bryd.
Dywedodd Llŷr Gruffydd "Mae nifer o gartrefi gofal ar draws gogledd Cymru wedi cysylltu â mi yn ddiweddar gan godi pryderon am sefyllfa cyllid y sector.
"Mae cartrefi gofal yn derbyn llai o gyllid gan Betsi Cadwaladr ar gyfer darparu gofal iechyd parhaus nag y maen nhw'n ei dderbyn gan awdurdodau lleol am ofalu am unigolion sydd ag anghenion gofal llai dwys; yng Nghonwy, er enghraifft, mae'n £6,000 y flwyddyn yn llai i bob preswylydd.
"Nawr, mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud y penderfyniad ariannu ar gyfer y flwyddyn bresennol heb ymgynghori â'r sector, er nawr, gyda llaw, o ganlyniad i'r ymateb dig gan y sector ac ymyrraeth gan wleidyddion, mae wedi cytuno i gyfarfod i ddod o hyd i ffordd ymlaen.
"Ond a gaf i ofyn a ydych chi'n cytuno â mi bod peidio ariannu cartrefi gofal yn iawn yn economi ffug?
"Hynny yw, os yw'r cartrefi gofal yma yn gwrthod cymryd preswylwyr neu gau oherwydd tanariannu gan y bwrdd iechyd, yna y bwrdd iechyd ei hun fydd wedyn yn gorfod delio gyda'r sefyllfa, gyda mwy o welyau ysbyty wedi'u blocio, a nhw fydd yn talu'r pris.
"Felly, pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ddatrys y sefyllfa anghynaladwy hon? Pa gyngor sydd gennych i Betsi Cadwaladr o ran talu ffioedd teg i gartrefi gofal er mwyn osgoi sefyllfa lle mae'r system ofal yn dirywio, a fyddai'n costio llawer mwy i Betsi Cadwaladr yn y tymor hir?"
Mewn ymateb dywedodd Dawn Bowden mai mater i awdurdodau lleol yw "penderfynu" sut maen nhw'n dyrannu cyllid ac na all Llywodraeth Cymru "ddweud wrth awdurdodau lleol sut i wario eu harian".
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter