Ymrwymiadau yng nghyllideb ddrafft Cymru yn “newid bywydau pobl er gwell” - Plaid Cymru
... ond Cymru yn parhau i fod ar ei cholled o dan rym San Steffan meddai llefarydd cyllid y blaid Llyr Gruffydd AS.
Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cyflawni Cymru tecach ac chryfach diolch i addewidion polisi uchelgeisiol Plaid Cymru yn y Cytundeb Cydweithredu, meddai Llefarydd Cyllid Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Cyhoeddir cyllideb Llywodraeth Cymru yn llawn yn ddiweddarach heddiw a disgwylir iddi gynnwys cyllid ar gyfer y blaenoriaethau y cytunwyd arnynt rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn y Rhaglen Polisi Cytundeb Cydweithredu - gan gynnwys prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd a gofal plant am ddim i blant dwy oed.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS y byddai’r ymrwymiadau hyn yn adeiladu’r genedl ac yn cryfhau Cymru mewn nifer o feysydd ac yn sicrhau cefnogaeth drawsnewidiol i “rai o’n cartrefi tlotaf” ac yn “newid bywydau pobl er gwell ledled Cymru”
Fodd bynnag, dywedodd Mr Gruffydd “y gellid gwneud llawer mwy” pe na bai cyllideb Cymru’n cael ei phennu gan Lywodraeth yn San Steffan sydd “allan ohoni” pan ddaw at anghenion Cymru.
Ychwanegodd Mr Gruffydd y byddai Cymru’n well ei byd hyd at oddeutu £3 biliwn pe bai cyllideb Cymru wedi cynyddu yn unol â maint economi’r DU er 2010.
Yn lle, roedd Cymru wedi cael ei gadael i “droedio’r bil” ar gyfer prosiectau costus fel HS2 ac wedi gweld 275,000 o deuluoedd yn llithro mewn i dlodi oherwydd y toriad yn y Credyd Cynhwysol yn gynharach eleni
Dywedodd Mr Gruffydd y byddai Plaid Cymru yn parhau i ddadlau dros rhagor o bwerau ariannol i Gymru “fel bod polisi economaidd yn cael ei yrru gan yr hyn sydd orau i’n cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus, nid yr hyn sy’n gweithio orau i Boris Johnson a’i Gabinet o filiwnyddion.”
Ar 1 Rhagfyr, llofnododd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price a’r Prif Weinidog Mark Drakeford y Cytundeb Cydweithredu, gan nodi dechrau partneriaeth tair blynedd.
Mae'r cytundeb yn cynnwys 46 maes polisi, gan gynnwys estyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd a darpariaeth gofal plant; creu gwasanaeth gofal cenedlaethol a gweithredu ar unwaith i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi.
Bydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu a goruchwylio cyflwyno polisïau yn y Cytundeb Cydweithrediad.
Wrth ymateb i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, dywedodd Llyr Gruffydd, llefarydd Cyllid Plaid Cymru,
“Diolch i Plaid Cymru, bydd y gyllideb hon yn gweld Cymru hyd yn oed yn decach, yn wyrddach, ac yn gryfach fyth trwy addewidion polisi uchelgeisiol.
“O brydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd i ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed a llawer mwy, bydd yr ymrwymiadau a sicrhawyd gan Plaid Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu â Llywodraeth Cymru yn sicrhau cefnogaeth drawsnewidiol i rai o’n cartrefi tlotaf a bydd yn newid bywydau pobl er gwell ledled Cymru.
“Mewn gwirionedd wrth gwrs, gellid gwneud llawer mwy pe na bai maint a graddfa cyllideb Cymru yn cael ei phennu gan Lywodraeth Dorïaidd y DU yn San Steffan sydd allan ohoni pan ddaw at anghenion ein cenedl. Pe bai'r Gyllideb wedi cynyddu yn unol â maint economi'r DU er 2010, byddai Cymru yn well ei byd o oddeutu £3biliwn.
“Yn lle hynny, mae disgwyl i ni droedio’r bil ar gyfer gwariant anferth prosiect rheilffordd HS2, y bwriedir ei adeiladu’n gyfan gwbl y tu allan i Gymru ac er anfantais i’n heconomi.
“Mae toriad creulon y Prif Weinidog i Gredyd Cynhwysol yn cymryd mwy na £ 280m oddi ar economïau lleol ac mae 275,000 o deuluoedd Cymru yn wynebu llithro mewn i dlodi.
“Dyna pam y bydd Plaid Cymru yn parhau i ddadlau dros rhagor o bwerau ariannol i Gymru fel bod polisi economaidd yn cael ei yrru gan yr hyn sydd orau i’n cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus, nid yr hyn sy’n gweithio orau i Boris Johnson a’i Gabinet o filiwnyddion.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter