Y bobl a'r cwrs golff

Trigolion lleol yn cyfarfod â Llyr Gruffydd, AS Plaid Cymru Gogledd Cymru, a'r cynghorydd lleol Paul Penlington. O’r chwith, Cyng Paul Penlington, Jane Stacey, Margaret Hampson, James Mather, Dilys Davies, Llyr Gruffydd MS

Mae trigolion Prestatyn yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu hanwybyddu ar ôl i gynlluniau gael eu datgelu i adeiladu amddiffynfa môr naw troedfedd o uchder o flaen eu tai.

Maen nhw'n credu bod Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi blaenoriaeth i'r clwb golff lleol drostynt ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod yr amddiffynfa fôr newydd arfaethedig wedi'i newid i wneud lle i dwll arall ar glwb golff Y Rhyl.

Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn dangos yr amddiffynfeydd môr yn torri ar draws tiroedd y clwb golff ond roedd cynlluniau diwygiedig a gyflwynwyd ychydig cyn y Nadolig yn dangos bod yr amddiffynfeydd wedi symud i fod yn union gyferbyn â chartrefi trigolion Green Lanes.

Maen nhw'n dweud y bydd yn golygu bod clawdd pridd naw troedfedd o uchder yn edrych dros eu byngalos, gyda phobl yn gallu cerdded ar ei hyd yn edrych i lawr ar eu cartrefi.

Mae’r cynllun yn cael ei wrthwynebu gan y cynghorydd lleol Paul Penlington ac Aelod Seneddol Plaid Cymru dros y Gogledd, Llyr Gruffydd, a welodd drostynt eu hunain effaith y wal arfaethedig yn ystod ymweliad safle.

Adleisiodd Llyr Gruffydd MS farn y trigolion: "Mae'r tebygolrwydd o dywydd eithafol ac ymchwyddiadau arfordirol yn golygu bod yn rhaid i ni baratoi i amddiffyn eiddo ar hyd yr arfordir. Fodd bynnag, mae'r cynllun hwn wedi'i newid mewn ffordd sy'n awgrymu bod cynllunwyr wedi rhoi blaenoriaeth i'r cwrs golff yn hytrach na thrigolion, sy’n teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu yn y broses.

"Rwy'n ddiolchgar i'r Cynghorydd Penlington am dynnu fy sylw ato a gobeithio y bydd aelodau'r pwyllgor cynllunio hefyd yn ystyried a yw'r cynllun yn gwasanaethu'r bobl neu'r clwb golff."

Dywedodd y Cynghorydd Paul Penlington: “Rwyf wedi dadlau y dylai Prestatyn gael ei chynnwys yng nghynlluniau Sir Ddinbych i wella amddiffynfeydd morol am nifer o flynyddoedd felly rwyf, wrth gwrs, yn gwerthfawrogi’r angen i waith gael ei wneud cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, ni ddylai’r gwaith hwnnw gael effaith andwyol ar gartrefi a llesiant meddwl pobl. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhuthro gyda'r cynlluniau diwygiedig ar ôl cyfnod ymgynghori cwbl annigonol heb roi amser, neu wybodaeth, i unrhyw un wneud sylwadau. Rwy’n hynod siomedig nad yw barn trigolion a’r effaith ar eu heiddo wedi’u hystyried.

"Rwyf bellach wedi gwneud cwyn ffurfiol am yr ymgynghoriad cyn-cynllunio a gynhaliwyd ar yr amddiffynfeydd môr arfaethedig ym Mhrestatyn. Rydym yn ddiolchgar iawn bod Llyr wedi gwrando ac wedi cymryd amser o'i amserlen brysur i ymweld â'r safle a siarad â rhai o'r bobl yr effeithir arnynt. Byddai'n dda pe bai Sir Ddinbych yn estyn yr un cwrteisi i drigolion.”

 

 

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2022-01-23 22:35:38 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd