Mae Llyr Gruffydd AS wedi annog Llywodraeth Lafur Cymru i fabwysiadu ymgyrch allweddol ‘Achub Ein Meddygfeydd’ BMA Cymru i adfer cyllid ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu i 8.7% o gyllideb bresennol GIG Cymru.
Dywedodd Llyr Gruffydd -
“Practisau meddygon teulu yw’r porth i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ond gan ein bod ar fin gweld y 100fed practis yn cau yng Nghymru mewn ychydig dros ddegawd, mae pob un ohonom ni yn deffro i'r ffaith fod y sector mewn argyfwng. Gwyddom fod mynediad at y gwasanaethau hyn yn symptomatig o broblemau capasiti. Mae’n gylch dieflig o feddygon teulu yn ymddeol yn gynharach neu’n gadael y proffesiwn oherwydd pwysau gwaith cynyddol, gan arwain at straen pellach ar weddill y gweithlu. Mae hyn i gyd yn arwyddion pellach o danariannu cronig gan Lywodraeth Lafur Cymru sy’n methu hyd yn oed gydnabod maint y broblem.”
Ers 2012, mae nifer y practisau meddygon teulu wedi gostwng o 473 i 374, gyda nifer o bractisau meddygon teulu hefyd yn cael eu rheoli’n uniongyrchol gan fyrddau iechyd oherwydd bod partneriaid yn rhoi contractau yn ôl. Dyma un o'r arwyddion cadarnaf fod meddygfa mew trafferth - y ffaith ei bod yn cael ei rheoli yn uniongyrchol gan yr awdurdod. Mae cyfanswm nifer y meddygon teulu yng Nghymru hefyd wedi gostwng mwy na 400 mewn deng mlynedd oherwydd pwysau gwaith cynyddol a chyllidebau llai.
Mae anniddigrwydd eang ar draws gogledd Cymru, gan fod mynediad at bractisau meddygon teulu yn broblem gynyddol a bod mwy o bractisau a reolir gan fyrddau iechyd yn rhanbarth Betsi Cadwaladr nag yng ngweddill Cymru gyda’i gilydd.
Ychwanegodd Llyr Gruffydd -
“Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn cydnabod bod y problemau yn ein gwasanaeth iechyd yn rhedeg yn ddwfn ac yn gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r problemau ym maes gofal sylfaenol. Ochr yn ochr â gwrthdroi degawd o doriadau ac adfer y gyllideb practis cyffredinol i 8.7% o wariant y GIG, bydd Plaid Cymru yn gweithio gyda’r proffesiwn i ddatblygu rhaglen cadw a hyfforddi i recriwtio 500 yn fwy o feddygon teulu dros gyfnod o ddau dymor. Mae angen gweithredu dewr yn fwy nag erioed i achub ein GIG.
“Mae’r broblem yn un ar gyfer pob rhan o Gymru ond mae’n arbennig o ddifrifol yma yn y Gogledd, lle mae gennym ni 13 o bractisau a reolir a phroblemau enfawr gyda phractisau meddygon teulu o ran recriwtio a chadw. Yn y misoedd diwethaf rwyf wedi cyfarfod â meddygon teulu yn ardaloedd Glannau Dyfrdwy, Wrecsam a Chonwy ac mae’n amlwg nad oes gan y llywodraeth Lafur weledigaeth i sicrhau bod y rhan hanfodol hon o’r GIG yn cael ei diogelu a’i chryfhau. Mae angen gweithredu’n feiddgar.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter