Tanlinellodd Llyr Gruffydd AS bwysigrwydd economaidd Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, lle mae TATA Steel yn gyflogwr o'r radd flaenaf. Anogodd Lywodraeth Cymru a'r DU i wneud mwy i gefnogi'r diwydiant.
"Mae Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy yn ased economaidd enfawr i Ogledd Cymru, ac mae TATA Steel yn rhan hanfodol o hynny. Byddwn ni ym Mhlaid Cymru yn gwneud ein gorau, nid yn unig i ddiogelu gweithfeydd fel Shotton ond i sicrhau eu bod yn ffynnu.
"Mae gan TATA Steel bresenoldeb enfawr yng Nghymru o hyd, ac mae'n rhaid i Gaerdydd a San Steffan wneud popeth posibl i ddiogelu'r diwydiant. Mae cymunedau ar draws Cymru yn dibynnu ar sector dur ffyniannus."
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, wedi disgrifio ffatri Shotton Tata Steel fel "pluen yn het" y diwydiant dur Cymru, gan bwysleisio ei rôl bwysig wrth gynnal cynhyrchu dur ledled y wlad.
Yn ystod ymweliad â safle Glannau Dyfrdwy, cafodd Rhun ap Iorwerth, Llyr Gruffydd AS, a Luke Fletcher AS (llefarydd Plaid Cymru ar yr economi) gipolwg ar weithrediadau'r ffatri a'i arwyddocâd o fewn rhwydwaith dur TATA yn y DU.
Mae safle Shotton yn cyflogi 800 o bobl ac yn arbenigo mewn ychwanegu haenau i gynhyrchion dur amrwd o ffatrïoedd eraill cyn eu cludo yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.
Mae'r haenau hyn - fel galfaneiddio sinc a haenau lliw—yn cynyddu gwerth y dur yn sylweddol, gan wneud Shotton yn safle allweddol yng ngweithrediadau TATA yn y DU.
Wrth siarad wedi'r ymweliad, pwysleisiodd Rhun ap Iorwerth fod y gwaith yn rhan hanfodol o weithrediadau Tata Steel a diwydiant ehangach Cymru.
"Mae safle Shotton yn unigryw o fewn gweithrediadau TATA yn y DU—dyma'r safle sy'n ychwanegu gwerth go iawn i'w gynnyrch dur. Mae'n rhan hanfodol o weithrediadau'r cwmni—heb y safle hwn a'i weithlu, ni fyddai gweithrediadau dur TATA yn y DU yn goroesi.
"Mae cefnogi cyflogwr fel TATA yng Ngogledd-ddwyrain Cymru yn hanfodol, nid yn unig i'r rhanbarth ond i'r diwydiant dur ehangach yng Nghymru. Heb ffatri Shotton, ni all y gweithrediadau ym Mhort Talbot a Throstre ffynnu, a heb gyflenwi deunyddiau o'r gweithfeydd eraill yng Nghymru, ni all Shotton oroesi."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter