Cyfarfu Llyr Gruffydd â grwpiau o bobl ifanc, rhai o oedran ysgol gynradd sy'n ofalwyr cofrestredig ar gyfer aelodau'r teulu yn elusen NEWCIS yn yr Wyddgrug ac roedd yn hael ei ganmoliaeth i'r bobl ifanc gan ddweud-
"Mae'r rhain yn aelodau arbennig iawn o'n cymdeithas. Nid yn unig y mae nhw yn delio a chyfrifoldebau na allai'r rhan fwyaf ohonom eu dychmygu yn yr oedran hwnnw, ond maen nhw'n ei wneud gydag aeddfedrwydd anghredadwy.
"Fel cymdeithas, rydym wedi gweld achosion o bobl ifanc yn ysgwyddo beichiau enfawr wrth i ofalwyr ddod yn fwyfwy aml. Dydyn nhw ddim yn achosion prin ond yn anghenraid cyffredin i gadw teuluoedd ledled y wlad yn gweithredu."
Mae'r elusen NEWCIS sydd wedi'i lleoli yn Yr Wyddgrug yn cynnig cymorth i ofalwyr o bob oed, gan gynnwys y plant ieuengaf. Drwy gynnig sesiynau seibiant lle mae'r gofalwyr ifanc yn dod at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol wythnosol, mae'r gofalwyr yn cael ymlacio a rhannu profiadau gydag eraill sy'n wynebu heriau tebyg mewn bywyd.
Cyn bo hir, bydd yr elusen yn symud i adeilad newydd yn hen adeilad Banc Barclays yn Yr Wyddgrug, lle bydd eu holl staff, gwasanaethau a'r mannau sydd eu hangen arnynt yn eistedd o dan yr un to.
Dywedodd Claire Sullivan Prif Swyddog Gweithredol ar ran NEWCIS
"Roedd yn wych cael y cyfle i'n Gofalwyr Ifanc gyfarfod a gofyn eu cwestiynau eu hunain i Mr Gruffydd eu bod wedi mwynhau'r profiad yn fawr.
"Roedd gallu dangos yr AS o amgylch ein canolfan newydd yn wych. Rydym yn gobeithio y bydd symud i'r safle newydd yn rhoi capasiti ychwanegol i ni ar gyfer gwasanaethau sydd eu hangen hanfodol, bydd yr adeilad yn adnodd cymunedol ac rydym yn gobeithio y bydd gofalwyr a'u hanwyliaid yn mwynhau'r gofod newydd a'r cyfleusterau."
Ychwanegodd Llyr Gruffydd -
"Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd o ran cefnogi gofalwyr ifanc drwy gyflwyno'r cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc, y Cynllun Seibiant Byr a'r Gronfa Cefnogi Gofalwyr, rwy'n teimlo y gallwn wneud mwy. Mae Plaid Cymru yn ystyried cynnig cynlluniau ychwanegol i gynnig cefnogaeth. Mae'r rhain yn cynnwys pàs teithio gofalwyr ifanc a chynllun cymorth iechyd meddwl."
"Mae'n hanfodol ein bod yn cynnig yr holl gefnogaeth sydd ei hangen ar ein gofalwyr. Er bod rhywfaint o waith yn digwydd, gallwn wneud llawer mwy i'r bobl ifanc hyn."
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am y cymorth a gynigir gan NEWCIS – ewch i www.newcis.org.uk neu anfonwch e-bost atynt yn [email protected]
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter