Yn ddiweddar galwodd Llyr Gruffydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw pobl sydd â thiwmorau ar yr ymennydd "yn disgyn rhwng dwy stôl". Roedd hyn yn adleisio rhybuddion gan ymgyrchwyr bod angen gwneud mwy i gael gwared ar rwystrau sy'n bodoli yn y gwasanaeth iechyd.
Yn ddiweddar, cyfarfu Mr Gruffydd AS â chynrychiolwyr o Elusen Tiwmorau'r Ymennydd yn Nhŷ Hywel i ddangos ei gefnogaeth i Fis Ymwybyddiaeth Tiwmorau'r Ymennydd.
Dywed Elusen Tiwmorau'r Ymennydd mai dim ond drwy newid systematig y gellir mynd i'r afael â'r bylchau yn y gwasanaeth iechyd a datblygu Strategaeth Genedlaethol Tiwmor yr Ymennydd cynhwysfawr.
Gall pobl sydd â thiwmor ar yr ymennydd wynebu nifer o faterion, gan gynnwys nifer o gamddiagnosau a theithiau i feddygon teulu, i gael triniaethau llym neu beidio â chael mynediad at y gefnogaeth gan Nyrs Arbenigol Glinigol (CNS) ddynodedig.
Yn ôl The Brain Tumour Charity, mae tiwmorau'r ymennydd yn aml yn syrthio i'r pentwr 'rhy anodd' oherwydd natur y clefyd.
Mae mwy na 120 o wahanol fathau o diwmorau ymennydd a system nerfol ganolog, a all fod yn radd uchel, neu radd isel (heb fod yn falaen). O ganlyniad nid yw'r clefyd yn eistedd yn daclus yn y byd canser na'r clefyd prin.
Mae'r elusen hefyd yn dweud bod canserau'r ymennydd yn aml yn cael eu colli gan raglenni canser y GIG oherwydd y gwahaniaethau o ran sut maen nhw'n dechrau, datblygu ac yn cael eu tracio, o'i gymharu â mathau eraill o ganserau.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: "Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ogystal â llywodraethau ar draws y DU yn sicrhau nad yw pobl sydd â thiwmorau ar yr ymennydd yn disgyn drwy'r craciau yn y system gofal iechyd.
"Mae angen strategaeth wedi'i hystyried yn ofalus i sicrhau bod hyn yn ystyried yr holl gymhlethdodau ac yn rhoi anghenion cleifion yn flaenoriaeth.
"Fel gydag unrhyw afiechyd, y cyflymaf y gellir ei ddal y mwyaf tebygol yw hi i gleifion gael canlyniad positif.
"Dyna pam ei bod yn bwysig mynd i'r afael â'r rhwystrau y gall cleifion eu hwynebu wrth geisio mynd i gael diagnosis, a chael mynediad at ofal a thriniaeth.
"Mae sicrhau bod cleifion yn gallu cael diagnosis cyflymach yn gallu agor mwy o opsiynau i gleifion a'u teuluoedd gael digon o gefnogaeth.
"Gall hefyd ehangu cwmpas opsiynau cymryd rhan mewn ymchwil, lleihau difrifoldeb y symptomau, yn ogystal â helpu cleifion i wrthsefyll triniaethau llym yn well a lleihau'r angen am lawdriniaeth frys a risg uwch."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter