Ysgol â golwg byd-eang o'r argyfwng hinsawdd

Llyr Gruffydd AS gyda phlant ac athrawon Ysgol Gymraeg Mornant, sir y Fflint.

Mae ysgol wledig yn Sir y Fflint â golwg byd-eang wrth ystyried pryderon newid hinsawdd oherwydd trefniant gefeillio gydag ysgol ym Mangladesh.

Daeth gwybodaeth y plant i'r amlwg gydag ymweliad gan Llyr Gruffydd, AS Plaid Cymru Gogledd Cymru a chadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn y Senedd.
Dywedodd Bethan Jones, pennaeth Ysgol Gymraeg Mornant, fod y plant wedi paratoi cwestiynau i'w cynrychiolwyr yn y Senedd: "Ysgrifennodd y plant llythyrau i danlinelli eu gofidion am newid hinsawdd, ac i ofyn i Aelodau'r Senedd gynrychioli eu gofidion yn GOP 26. Mae'r plant yn cydweithio gydag ysgol ym Mangladesh  ac wedi dysgu ganddynt am broblemau enfawr yno oherwydd llifogydd a newid hinsawdd, a'r ffaith bod yr afonydd a dŵr yn cynhesu yn gorfodi bywyd sydd yn y dŵr i symud i ddwr oerach neu farw allan yn gyfangwbl.
 
"Roedd y plant yn awyddus i wneud eu gorau i’w helpu ac hefyd yn poeni am effeithiau eraill newid hinsawdd fydd yn ein heffeithio ni ar hyd yr arfordir.
 Da oedd clywed am brofiadau Llyr Gruffudd yn COP26 ac i’r plant cael cyfle i  ofyn cwestiynau a thrafod  sut gallem gydweithio i wella'r sefyllfa. Edrychaf ymlaen at eich gwahodd yn ôl i Ysgol Gymraeg Mornant yn y dyfodol."
Dywedodd Llyr Gruffydd: "Roedd yn amlwg fod y plant wedi gwneud gwaith ymchwil trylwyr i'r holl bynciau cysylltiedig yn ymwneud â newid hinsawdd. Mae Ysgol Gymraeg Mornant yn gwasanaethau ardal go eang o ogledd Sir y Fflint ac roedd nifer o blant o deuluoedd ffermio. Roedden nhw'n poeni am effaith magu anifeiliaid ar yr hinsawdd ac felly roedd yn dda medru dweud fod cynnyrch amaethyddol Cymreig yn medru bod o help i leihau allyriadau carbon i'n atmosffêr. Drwy ganolbwyntio ar fwyta cig oen neu bîf Cymreig o safon ar stepan y drws yn hytrach na byrgyrs rhad o bendraw'r byd, gallwn helpu'r economi yn ogystal â'r hinsawdd.
 
"Rhaid i mi ganmol yr athrawon a'r plant am gwestiynau trylwyr a gwreiddiol iawn. Mae'n dda gweld yr ysgol - roedd dan fygythiad rhai blynyddoedd yn ôl gan y Cyngor Sir - yn ehangu ac yn ffynnu. Roedd yn bleser mynd draw a chael croeso cynnes."

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2021-12-10 10:58:25 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd