Mae AS wedi beirniadu HSBC am fod yn amharchus ar ôl gofyn i etholwraig ailyrru neges yn Saesneg.
Dywedodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, bod hyn yn “esiampl arall” o “ddiystyrwch llwyr” y banc “tuag at siaradwyr Cymraeg”.
Cysylltodd etholwr anhapus gyda’r gwleidydd o Blaid Cymru, ar ôl i aelod o dim gofal cwsmeriaid HSBC ddweud nad oeddent yn medru darllen y neges Gymraeg.
Mae HSBC wedi cael ei feirniadu yn ddiweddar ar ôl cyhoeddi y byddai ei linell ffôn Cymraeg yn cael ei ddiddymu yn mis Ionawr.
Mae Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd wedi ysgrifennu at y banc yn ei gyhuddo o ddangos “dirmyg” tuag at siaradwyr Cymraeg gan adio bod “methiant HSBC i gynnal dull sy’n cyd-fynd â'i werthoedd yn cael ei ystyried yn annidwyll ac yn annifyr”.
Cwestiynwyd be ddwedwyd gan José Carvalho, Pennaeth Cyfoeth a Bancio Personol HSBC ymddangosodd i roi tystiolaeth o flaen y pwyllgor, ddiwedd mis Tachwedd.
Dywedodd y banciwr bod y llinell gymorth Gymraeg yn derbyn tua 22 galwad y diwrnod a mai dim ond 6% o’r galwadau i’r yna oedd yn cael eu hateb yn Gymraeg.
Ond tarodd y pwyllgor yn ôl gan ddweud bod hyn yn golygu bod 94% o’r galwadau ddim yn cael eu hateb yn Gymraeg a bod hyn yn dangos methiant sylfaenol yng ngwasanaeth y banc.
Dywedodd y pwyllgor bod y nifer isel i’r llinell yn adlewyrchu “anallu” HSBC i ddarparu gwasanaeth gweithredol a chyson sy'n diwallu anghenion ei gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.”
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Mae hyn yn esiampl arall o ddiystyrwch llwyr HSBC tuag at siaradwyr Cymraeg.
“Mae o yn gwbl annerbyniol bod HSBC wedi gofyn i fy etholwraig ailyrru eu ymholiad iaith Gymraeg yn Saesneg.
“Mae yna lawer iawn o rwystredigaeth a dicter yng Nghymru am agwedd HSBC tuag at yr iaith Gymraeg.
“Fel siaradwr Cymraeg fy hun a fel aelod o Bwyllgor Diwylliant y Sened rydw i yn rhannu’r rhwystredigaeth yna.
“Mae HSBC wedi cau nifer mawr o ganghennau lleol ar draws gogledd Cymru dros y degawd diweddar, sydd wedi creu problemau i nifer o gwsmeriaid.
“Dylid gael ei gofio bod llawer o gwsmeriaid HSBC yn bobl hŷn ac yn fregus, ac eu bod nhw angen gwasanaeth bancio wyneb i wyneb.
“Mae HSBC yn hoff o ddisgrifio ei hyn fel banc lleol y byd. Wel mae o’n hollol glir nid yw hyn yn wir yng Nghymru tra ei fod yn ymadael a siaradwyr Cymraeg ac yn ymadael ein strydoedd mawr trwy gau canghennau.
“Pan mae cwsmer yn e-bostio yn Gymraeg y lleiafswm y dylent dderbyn ydi ateb yn Gymraeg.
“Rydw i hefyd yn galw eto ar HSBC ailystyru y penderfyniad i gau y llinell gymorth Cymraeg.
“Dylid cofio bod nifer o gwsmeriaid yn defnyddio HSBC achos o’r llinell gymorth Gymraeg, ac heb os mae o’n wir bod y banc ddim wedi gwneud digon i’w hybu.
“Mae hyn yn ergyd mawr arall i’w cwsmeriaid yng Nghymru, yn enwedig cwsmeriaid hŷn sydd yn cael trafferth cael mynediad i wasanaeth digidol.
“Mae ymrwymiad y banc i trefnu galwad yn ôl yn Gymraeg o fewn 3 diwrnod gwaith yn hynod o amharchus i siaradwyr Cymraeg. Mae o hefyd yn ansensitif i’r pwysau ariannol mae rhai yn wynebu.
“I nifer iawn o bobl dydi cael mynediad i’w banc trwy’r Gymraeg ddim yn “ddewis” fel mae HSBC yn ei ddweud. Mae HSBC yn dweud eu bod nhw wedi ‘cadarnhau’ bod i gyd o’u cwsmeriaid yn medru bancio yn Saesneg.
“Mae hyn yn agwedd sydd yn perthyn i ganrif arall. “Mae o hefyd yn anwir, yn enwedig i nifer o bobl hyn a bregus. Mae angen i HSBC newid y penderfyniad yma a symud tuag at hybu gwasanaethau Cymraeg, gan cynnwys derbyn e-byst iaith Gymraeg gan gwsmeriaid.”
Dywedodd neges HSBC i’r etholwraig: “Thank you for your recent e-message. You have sent your e-message to a HSBC website in the UK. Regrettably, I am unable to read your email.
“Hence, I request you to please resend your message in English so that I can look into your matter.
“I regret, I am unable to assist you with regards to any account specific enquiry via this messaging service.
“Your e-mail has been received by HSBC in the UK, where we may only respond to feedback and general banking queries relating to HSBC UK products and services.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter