Mae AS Gogledd Cymru wedi canu clod Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru gan ddweud bod y “dyfodol yn llewyrchus i ddemocratiaeth Cymru.
Wnaeth Llyr Gruffydd, of Plaid Cymru, gyfarfod Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru mewn arddangosfa am eu gwaith a gymerodd lle yn y Senedd.
Cafodd Mr Gruffydd y cyfle i gyfarfod Owain Williams, sy’n cynrychioli Aberconwy, Leaola Roberts-Biggs, sy’n cynrychioli Alun a Glannau Dyfrdwy a Jake Dillon, sy’n cynrychioli Sir Drefaldwyn.
Mae Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru wedi cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru mewn cyfres o adroddiadau, yn cynnwys Ffyrdd Gwyrdd, am newid hinsawdd, Meddyliau Iau o Bwys, am iechyd meddwl, a Fy Niwrnod Ysgol, am hyd y diwrnod ysgol a gweithgareddau allgyrsiol.
Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn gorff deddfwriaethol fodel a chafodd ei sefydlu yn 2018 gan y Senedd
Etholwyd 40 drwy bleidleisio mewn etholiad a cafodd y 20 arall eu hethol gan bobl Ifanc o sefydliadau partner. Nod hyn oedd sicrhau bod yna gynrychiolaeth o grwpiau amrywiol o bobl Ifanc.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Roedd hi’n bleser i gyfarfod Owain, Leaola a Jake ac i glywed am yr holl waith mae nhw wedi bod gwneud yn Senedd Ieuenctid Cymru ac yn eu cymunedau.
“Trwy be mae nhw yn ei gyflawni mae nhw yn dangos bod y dyfodol yn llewyrchus i
“Mae’r hinsawdd, iechyd meddwl a’r diwrnod ysgol yn faterion hynod o bwysig a mae o’n galonogol iawn i weld sut mae’r bobl ifanc yma wedi mynd ati i greu argymhellion meddylgar.
“Rydw i yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru cymryd rhain o ddifri. Mae pobl ifanc yn dod a bersbectif gwahanol i wleidyddiaeth yn o gystal ag un pwysig a mae o’n iawn y bod eu barnau a’u anghenion yn cael eu hadlewyrchu yn y deddfau sy’n cael eu pasio yn y Senedd.
“Mae o’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod pobl ifanc yn ymwneud a’r broses gwleidyddol os mae ein cenedl am lwyddo.
“Pwrpas Senedd Ieuenctid Cymru ydi grymuso pobl ifanc i wneud penderfyniadau ac i roi llais iddynt yng ngwleidyddiaeth Cymru ac rydw i’n falch iawn fy mod wedi cael y cyfle i ddathlu eu cyfraniad gwerthfawr.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter