Mae angen i Gyngor Wrecsam “siapio” er mwyn mynd i’r afael ar yr argyfwng tai yn y sir, meddai AS.
Ymatebodd Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, ar ôl iddo ddod i’r amlwg bod yr angen am dai cyngor wedi cynyddu yn sylweddol, gyda’r rhestr aros yn cyrraedd 4,500.
Honnodd Mr Gruffydd, o Blaid Cymru, bod gan arweinwyr y Cyngor “ddull anhrefnus” at dai sydd yn “gadael trigolion i lawr”.
Mae ceisiadau am tai i’r awdurdod lleol wedi ymchwyddo achos o’r argyfwng costau byw cynyddiadau yn y farchnad rhent preifat.
Mae’r rhestr aros wedi cynyddu o 1,800 yn 2019, i 4,528 yn 2023. Yn bresennol mae gan y cyngor stoc o 11,055 o dai.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Dydi o ddim yn gor-ddweud i ddweud bod Wrecsam yn gwynebu argyfwng tai.
“Mae o yn amlwg nid oes digon o dai cyngor yn y sir a mae wir angen i’r Cyngor fynd i afael a’r sefyllfa yn gyflym.
“Mae angen dod a tai yn ôl mewn i ddefnydd fel tai cyngor, yn o gystal a buddsoddiad digonol mewn adeiladu tai cyngor newydd fforddiadwy
“Yn anffodus, yn lle mynd i’r afael a’r mater, mae arweinwyr y Cyngor wedi bod yn eistedd ar eu dwylo.
“Gwnaethpwyd Cynllun Datblygiad Lleol, nad oedd gan gefnogaeth trigolion lleol, a rŵan mae’n gwrthod ei weithredu.
“Mae hyn yn golygu bod Wrecsam yn cael y math anghywir o dai yn y llefydd anghywir, tra bod y tai sydd wir angen ddim yn cael eu adeiladu o gwbl.
“Mae’r holl beth yn ffars ac y bobl sydd angen tai sydd yn talu’r pris.
“Yn sicr mae’r argyfwng costau byw wedi cynyddu yr angen, ond be mae o wedi gwneud ydi gwaethygu problem a achoswyd gan ddiogi yr awdurdod lleol.
“Roedd y rhestr aros am dai cyngor yn llawer rhy hir cyn i’r argyfwng costau byw gynyddu yr angen hyd yn oed yn fwy.
“Mae angen trin cael tai diogel, sefydlog, a fforddiadwy fel hawl dynol sylfaenol. Mae pobl Wrecsam yn haeddu gwell.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter