AS Gogledd Cymru yn talu teyrnged i ddynes ‘arbennig’ a oroesodd yr Holocost

Mae AS Gogledd Cymru wedi talu teyrnged i ddynes “arbennig” a oroesodd yr Holocost.

Mynychodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli’r rhanbarth yn y Senedd, ddigwyddiad Cofio’r Holocost yn y Pierhead, ym Mae Caerdydd, hefo Ymddiriedolaeth Goffa’r Holocost, lle siaradodd Eva Clarke BEM

Cafodd Eva ei geni yng ngwersyll rhyfel Mauthausen, Awstria, ar Ebrill 29, 1945.

Hi a’i mam yw’r unig oroeswyr o’u teulu. Lladdwyd 15 ohonynt yn Auschwitz-Birkenau.

Maent yn cynnwys 3 o’i neiniau a theidiau, ei thad, ei ewythr, a’i chefnder 7 oed, Peter.

Siaradodd Mr Gruffydd am yr angen i feithrin “diwylliant o oddefiant a pharch” ac i “ymladd yn erbyn rhagfarn”.  

Roedd y digwyddiad cyn Ddiwrnod Cofio'r Holocost, sydd yn cael ei nodi’n flynyddol er mwyn cofio’r 6 miliwn o Iddewon a lofruddiwyd gan y Natsïaid yn yr Ail Ryfel Byd, yn o gystal a’r a lofruddiwyd achos o erledigaeth y Natsïaid a hil-laddiadau pellach.

Sefydlwyd yn 2000, a mae’n cael ei nodi bob blwyddyn ar Ionawr 27, sef y diwrnod y rhyddhawyd Auschwitz-Birkenau.  

Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Roedd yn anrhydedd i fynychu Digwyddiad Cofio’r Holocost yng Nghaerdydd ac i glywed Eva Clarke yn siarad yn bwerus am ei phrofiadau a’i bywyd arbennig.

“Mae ei stori dychrynllyd yn amlygu’r barbariaeth a’r creulondeb a ddioddefodd pobl yn ystod be oedd amser dywyll iawn i ddynoliaeth.

“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ein atgoffa bod ymladd yn erbyn rhagfarn ac anoddefgarwch mor bwysig ag erioed.

“Daethom at ein gilydd i gofio y 6 miliwn o ddynion, merched  phlant Iddewig a lofruddiwyd yn yr Holocost gan y Natsïaid a’u cydweithwyr, yn o gystal dioddefwyr o  erledigaeth gan y Natsïaid a hil-laddiadau pellach.

“Mae o yn gyfle i gofio dioddefwyr a goroeswyr ac i sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu anghofio.

“Mae angen i ni adnewyddu ein penderfyniad i herio gwrth-semitiaeth a rhagfarn, yn ei holl ffurfiau a lle bynnag y mae’n digwydd.   

“Cymerodd etholwyr a pobl ar draws Cymru y cyfle y ddod yng nghyd fel cymuned i ddangos solidariaeth ac i adlewyrchu ar ddigwyddiadau erchyll yr Holocost a hil-laddiadau pellach.

“Beth bynnag yw ein credoau, ein lliw croen neu dinasyddiaeth, y dylai bod yna ddiwylliant o oddefgarwch a parch i bawb.

“Rydym yn cofio y bobl a lofruddiwyd am ddim mwy na bod pwy oeddyn nhw, ac rydym yn gwrthwynebu ragfarn heddiw ac yn y dyfodol.”

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2024-02-09 15:40:34 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd