AS yn annog etholwyr i gefnogi apêl daffodil elusen cancr

Mae AS yn galw ar bobl yng Ngogledd Cymru i gefnogi apêl elusen cancr i godi arian.

Mae Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli’r rhanbarth yn y Senedd, yn cefnogi ymgyrch fwyaf blynyddol Marie Curie.

Wnaeth y gwleidydd o Blaid Cymru ymuno a staff a gwirfoddolwyr Marie Curie yn lansiad Apêl Fawr y Daffodil yn y Senedd.

Nod yr apêl ydi codi arian er mwyn sicrhau fod pawb yn derbyn y gofal a chefnogaeth maent yn eu haeddu ar ddiwedd oes.

Mae’r elusen yn gobeithio y gall gwirfoddolwyr o Ogledd Cymru roddi ond dwy awr o’u hamser i ddosbarthu’r bathodynnau cennin pedr eiconig am roddiad.

Gall pobl hefyd ymuno a’r dydd Ewch yn Felyn ar Fawrth 21,. Gallent godi arian gan wisgo neu bobi rhywbeth yn felyn yn y gwaith neu yn yr ysgol – neu mewn unrhyw ffordd sydd yn ei siwtio.

Yn bresennol mae un mewn pedwar person yn methu allan ar dderbyny gofal a chefnogaeth sydd ei angen ar ddiwedd oes.

Mae Apêl Fawr y Daffodil Marie Curie yn annog i bobl roddi a gwisgo’r bathodyn daffodil i helpu’r elusen parhau i gefnogi pobl efo unrhyw salwch y maent yn eu tebygol o farw ohono.

Mae’r ymgyrch gyda chefnogaeth prif bartner Superdrug, yn helpu i godi arian angenrheidiol ar gyfer Nyrsys Marie Curie a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddarparu cymorth arbenigol a gofal hosbis.

Mae Marie Curie yn ddibynnol iawn ar roddion cyhoeddus a blwyddyn ddiwethaf wnaeth gefnogwyr helpu’r elusen i ddarparu gofal uniongyrchol i fwy na 44,200 o bobl ledled y DU yn ei naw hosbis a trwy ofal nyrsio yn y cartref.

Mae’r arian a chodir hefyd yn talu am linell cymorth rhad a webchat yr elusen, sydd ar gael i unrhyw berson efo salwch y maent y neu debygol o farw ohono a nhw sydd yn agos atynt. 

Mae’n cynnig cefnogaeth ymarferol ag emosiynol ar bopeth o reoli symptomau a gofal dydd-i-dydd i wybodaeth ariannol a genogaeth profedigaeth.

Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Mae y gwaith mae Marie Curie y neu wneud yn fwy angenrheidiol nag erioed.  Dyna pam rydw i’n annog pobl ar draws Gogledd Cymru i gefnogi Apêl Fawr y Daffodil mewn unrhyw ffordd y gallent.  Mae pob rhodd yn golygu pan mae’r amser yn dod, gall Marie Curie fod yna i bobl a'u hanwyliaid pan mae nhw angen y gofal.”

Dywedodd Claire Phillips, Pennaeth Codi Arian Marie Curie yng Nghymru: “Mae lansiad o’r Apêl Fawr y Daffodil yn y Senedd wastad yn anrhydedd.

“Diolch i Llyr Gruffydd AS am ddod i gwrdd â’n staff a gwirfoddolwyr sydd mor hanfodol i Apêl Fawr y Daffodil pob blwyddyn.

“Nawr yn ei 38ain blwyddyn, mae’r apêl yn ffordd hwyl a gwych i ymuno a’n elusen, a byddwn yn hapus iawn i weld gwynebu newydd yn ymuno â’n gwirfoddolwyr ymroddedig presennol yng Ngogledd Cymru i helpu ni darparu gwasanaethau i bobl yn ddiwedd eu hoes.

“Mae ein tîm ar gael i gefnogi pob gwirfoddolwr ac i sicrhau eu bod nhw yn cael y profiad gorau posib tra’n helpu Marie Curie i barhau darparu gofal arbenigol diwedd oes a chefnogaeth am bobl efo unrhyw salwch y maent yn ei tebygol o farw ohono.  Os rydych efo diddordeb, byddwn yn falch o glywed ganddoch.”

I ddarganfod sut y gallwch wirfoddoli, ymwelwch a: mariecurie.org.uk/daffodil


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2024-03-15 16:18:56 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd