Mae AS yn annog etholwyr yng Ogledd Cymru i geisio am cefnogaeth ychwanegol hefo costau egni y gaeaf yma.
Pwyntiodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli’r rhanbarth yn y Senedd, at grantiau o hyd at £1,500 ar gyfer cwsmeriaid ynni sydd mewn dyled.
Cefnogodd y gwleidydd o Blaid Cymru ddigwyddiad yn y Senedd, lle wnaeth o ac ASau eraill gyfarfod cynrychiolwyr o British Gas a Centrica i drafod y cefnogaeth sydd ar gael ar gyfer cartrefi.
Mae’r cyflenwr wedi ymrwymo i gyfrannu €100m i helpu defnyddwyr ers cychwyn yr argyfwng ynni.
Mae’r British Gas Energy Support Fund, a’r Individuals and Families Fund yn darparu grantiau hyd at £1,500 i filoedd o ddefnyddwyr ynni mewn dyled.
Yn o gystal a hynny mae’r British Gas Energy Trust yn darparu miliynau mewn grantiau, mesurau effeithlonrwydd ynni, talebion tanwydd, a cyngor i ddefnyddwyr ynni.
Nid oes raid i drigionion fod yn gwsmer i gael cefnogaeth gan y the British Gas Energy Trust.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Mae nifer o gartrefi ar draws y gogledd yn gwybebu gaeaf anodd achos mae prisiau nwy a trydan yn parhau i fod yn uchel.
“Mae chwyddiant yn goglygu bod prisiau wedi codi ar draws y bwrdd a mae hyn wedi gorfodi pobl mewn i ddyled sydd wedi gadael nifer o bobl yn cael o’n anodd i dalu eu biliau.
“Er ei fod yn wir bod y cap pris ynni wedi cael ei ostwng yn ddiweddar, mae prisiau dal yn uchel iawn a mae costau mwy yn parhau i effeithio nifer o gartrefi.
“Rydw i eisiau sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Rydw i yn annog unrhyw un sydd yn cael trafferth i siarad i’w cyflenwr ynni ac hefo mudiadau megis y British Gas Energy Trust.
“Un peth rydw i eisiau pwysleisio ydi ei fod o ddim yn angenrheidiol i fod yn gwsmer British Gas i dderbyn cefnogaeth gan y British Gas Energy Trust.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter