Mae AS yn annog etholwyr i “siarad” am glefyd Crohn a Colitis.
Dywedodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, nid oes raid i bobl sydd yn byw hefo’r cyflyrau “ddioddef ar ben eu hunain”.
Siaradodd y gwleidydd o Blaid Cymru am y pwnc yn dilyn cyfarfod gyda aelodau o dim Crohn’s & Colitis UK yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Clefyd Crohn a Colitis.
Anogodd unrhyw un sydd yn byw gyda’r clefydau i ddefnyddio of Crohn’s & Colitis UK’s Talking Toolkit, sydd wedi cael ei greu er mwyn helpu bobl i ffeindio’r geiriau iawn i esbonio be y mae nhw yn mynd drwyddo.
Mae dros 26,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda clefyd Crohn neu Colitis. Mae nhw yn afiechydon cronig heb iachâd lle mae’r system imiwnedd yn ymosod ar y coludd ac yn aml maent yn effeithio pobl ifanc yn ystod y blynyddoedd mwyaf cynhyrchiol o’i bywydau.
Erbyn hyn trin clefydion gyda clefyd Crohn neu Colitis yn costio yr yn faint i’r GIG a trin pobl hefo cancr neu clefydau y galon.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Mae siarad am clefyd Crohn a Colitis un medru bod yn anodd i bobl sydd hefo’r clefydau.
“Gall rai deimlo embaras neu yn ansicr, heb fod yn siŵr o sut i ddelio gyda byw hefo a siarad am yr effaith ar eu bywydau dydd i ddydd.
“Gall y Crohn’s & Colitis UK’s Talking Toolkit eu helpu i ffeindio y geiriau cywir i rannu be maent yn mynd drwyddo a’r effaith ar eu bywydau.
“Nid oes raid i bobl ddioddef ar ben eu hunain a rydw i yn annog unrhyw un sydd gyda’r clefydau yma i wneud y mwyaf o’r adnodd yma. Yn aml siarad ydi’r cam cyntaf tuag at cael cefnogaeth a gofal gwell.
“Mae’r math yma o gyflyrau yn llawer iawn mwy cyffredin na mae lot o bobl yn meddwl. Mae yna dros 26,000 o bobl yng Nghymru sydd yn byw gyda celfyd Crohn ne Colitis, a mae llawer ohonynt yng Ngogledd Cymru.
“Hoffwn ddiolch i dim Crohn’s & Colitis UK am ddod i’r Senedd i siarad am y cyflyrau a thrafod sut y gallwn weithio gyda ein gilydd ar gyfer gwell ddiagnosis, gwell gofal a bywydau.”
Am fwy o gwybodaeth ewch i: https://crohnsandcolitis.org.uk/talk
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter