Mae AS yn annog teuluoedd ar draws y gogledd i gymryd rhan yn yr Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru.
Dywedodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, bod y cynllun yn gyfle gwych i “archwilio treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru."
Cafodd y Pasbort ei lansio eleni yn Ŵyl Amgueddfeydd Cymru hefo’r nod o hyrwyddo amgueddfeydd a chynyddu’r nifer sydd yn eu ymweld.
Gwnaeth amrywiaeth o amgueddfeydd gogledd Cymru gymryd rhan yn yr Ŵyl eleni, yn cynnwys Charchar Rhuthun, Amgueddfa Llandudno, Oriel Môn, Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, a Chanolfan Ddiwylliant Conwy.
Mae Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru yn gwahodd unigolion i ymweld â chwe amgueddfa erbyn 14 Ebrill 2024 er mwyn bod â chyfle i ennill tocynnau teulu un diwrnod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chlustffonau Beat Studio 3.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: "Mae'r ŵyl eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae'n hyfryd gweld cymaint o amgueddfeydd lleol Gogledd Cymru yn cymryd rhan.
“Mae'r Her Pasbort yn cynnig cymhelliant ychwanegol i ymweld ag amgueddfeydd hyd at fis Ebrill, ac archwilio treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru."
Roedd yr Ŵyl eleni, a gafodd ei gefnogi gan Llywodraeth Cymru, yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau addas i deuluoedd, gan gynnwys gweithgareddau Calan Gaeaf yn seiliedig ar lyfryn gan yr awdur plant, Casia Wiliam – sy’n byw yng Nghaernarfon – ar y Calan Gaeaf Celtaidd.
Roedd uchafbwyntiau’r Ŵyl eleni’n cynnwys digwyddiadau yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, gan gynnwys sesiwn glocsio gydag Angharad Harrop.
Cafodd y Ganolfan hefyd ei chynnwys mewn llwybr arbennig ar hanes a diwylliant amrywiol Cymru – sef thema’r Ŵyl eleni – oherwydd ei harddangosfa gelf ar y bocsiwr, hyfforddwr pêl-droed a'r garddwr ddu Joseph Taylor.
Dywedodd Rachael Rogers, o Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru: "Mae'r ŵyl yn gyfle gwych i arddangos y gwaith anhygoel a wneir gan amgueddfeydd ledled y wlad.
“Mae ein hamgueddfeydd nid yn unig yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddysgu am ein treftadaeth Gymreig, ond maen nhw hefyd yn hyrwyddo'r Gymraeg, ac yn cynnig digwyddiadau am ddim mewn lle cynnes a chroesawgar sy'n bwysicach nag erioed."
Am fwy o wybodaeth am yr Her Pasbort a'r amgueddfeydd ynghlwm â’r fenter ewch i: www.museums.wales/cy/pasbort
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter