Mae AS yn annog trigolion yng Ngogledd Cymru i nominyddu busnesau ar gyfer gwobrau gwledig.
Mae Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli’r rhanbarth yn y Senedd, yn annog y gymuned leol i yrru eu awgrymiadau i fewn rŵan bod yr enwebiadau ar gyfer y Gwobrau Cynghrair Cefn Gwlad ar agor.
Dywedodd y gwleidydd o Blaid Cymru, sydd hefyd yn Gweinidog Cysgodol dros Faterion Gwledig, eu bod yn “ffordd gwych” o anrhydeddu y bobl sy’n cadw “Cymru wledig yn ffynnu”.
Cafodd y Gwobrau, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel yr ‘Oscars Gwledig’ eu creu achos o’r angen i gefnogi ac i hybu cymunedau gwledig.
Maent yn dathlu pobo sydd yn gweithio i sicrhau bod diwydiant bwyd a ffermio, busnesau bach, sgiliau traddodiadol, mentrau sy'n edrych tua'r dyfodol, a’r boblogaeth, yn gallu ffynnu.
Mae posib enwebu busnesau yn y pump categori canlynol, sef Bwyd/Diod Lleol, Siop y Pentref/Swyddfa Bost, Cigydd, Menter Wledig, a Tafarn.
Mae enwebiadau ar agor tan 12 Tachwedd. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan bleidlais gyhoeddus a phanel beirniadu. Cynhelir derbyniad Cymru yn y Senedd ar y 27fed o Chwefror 2024.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Mae’r gwobrau yma yn ffordd gwych y hybu pobl busnes sydd yn gweithio yn galed i sicrhau bod Cymru wledig yn parhau i ffynnu.
“Mae ein cynnyrch yng Nghymru yn wych ac mae yna lawer iawn o arwyr a busnesau sydd yn haeddu cael eu anrhydeddu, felly rydw i yn annog pobl i enwebu heddiw.
“Mae yna gyfle i ni ddod a teitl adref ac i ddweud stori positif am Ogledd Cymru.”
Mae enwebiadau ar agor ar-lein ar www.countryside-alliance.org
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter