Mae AS wedi beirniadu y taliadau sefydlog hynod uchel mae trigolion o Ogledd Cymru yn gorfod talu.
Dywedodd Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli’r rhanbarth yn y Senedd, wedi siarad am y ffaith bod trigolion yn talu rhai o’r taliadau sefydlog uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Yn y Senedd, pwyntiodd at yr £82 ar gyfartaledd yn fwy bob blwyddyn gymharu â chartrefi tebyg yn Llundain mae etholaethwyr yn ei dalu.
Heriodd Mr Gruffydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt AS am be mae Llywodraeth Cymru yn gwneud i “roi diwedd ar yr anghyfiawnder yma” ac i gefnogi pobl hefo costau ynni pan mae’r tywydd yn oeri.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: ”Mae yna annhegwch ofnadwy yn y ffaith bod cartref yng ngogledd Cymru, ar gyfartaledd, yn talu £82 yn fwy bob blwyddyn mewn standing charges, o gymharu â chartrefi tebyg yn Llundain.
“Nawr, mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl annerbyniol, nid yn unig am ei fod e'n cosbi pobl sydd ar incwm isel, mae e hefyd, wrth gwrs, yn cosbi pobl sydd yn trio, efallai, lleihau a thorri nôl ar eu defnydd o ynni.
“Ond mae e hefyd yn annheg, wrth gwrs, oherwydd rŷn ni'n cynhyrchu cymaint o ynni yng ngogledd Cymru, rŷn ni'n allforio ynni.
“Hynny yw, mae yna bobl yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio ynni sy'n cael ei gynhyrchu yng ngogledd Cymru ac rŷn ni'n talu mwy o standing charges am ddefnyddio'r ynni dŷn ni'n ei gynhyrchu.
“Felly, gaf i ofyn pa drafodaeth rŷch chi fel Llywodraeth wedi'i chael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Ofgem a'r cwmnïau ynni i roi diwedd ar yr anghyfiawnder yma?
“Gan fod disgwyl i'r tywydd oeri dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf yma, beth ŷch chi'n ei wneud i gefnogi pobl wrth y bydd gofyn iddyn nhw nawr droi'r gwres i fyny ac wynebu'r goblygiadau hynny o safbwynt costau?”
Atebodd Jane Hutt AS ei bod hi wedi cyfarfod gyda Ofgem, gan adio bod y Sefydliad Banc Tanwydd yn “hanfodol” i gefnogi pobl gyda costau ynni, a bod yna wasanaeth cyngor sydd yn helpu pobl gael y budd-daliadau mae ganddynt hawl iddynt.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter