Mae AS wedi beirniadu Llywodraeth Cymru ar ôl i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam ddiddymu rhaglen gwaith cymunedol israddedig.
Dywedodd Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, ei fod yn “gresynu at y faith” bod y sefydliad addysg uwch wedi canslo’r rhaglen.
Yn ôl y gwleidydd o Blaid Cymru, mae hyn yn ganlyniad o fethiant Llywodraeth Cymru i ariannu y sector yn iawn.
Cyd-gyflwynodd Mr Gruffydd Ddatganiad Barn hefo Llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Gwasanaethau Cymdeithasol, Sioned Williams AS yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid.
Galwodd ar Lywodraeth Cymru i annog Prifysgol Glyndŵr Wrecsam i ymrwymo i ddarparu rhaglen gwaith ieuenctid a chymunedol israddedig, ac annog cyfleoedd i bobl ifanc fel y gallent gyflawni eu potensial.
Pan heriodd Sioned Williams y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, ar y mater mi wnaeth o gyfaddef nad oedd wedi ei drafod gyda Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid mae o yn bwysig ein bod yn cydnabod ac yn cymeradwyo cyfraniad y rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau gwaith ieuenctid.
“Mae eu gwaith yn creu cyfleoedd i bobl ifanc i bol ifanc yng Nghymru i wireddu eu potensial yn hanfodol i sicrhau bod gennym gymunedau dirgrynol, sy’n fynnu, rŵan ac yn y dyfodol.
“Ond i bobl ifanc wireddu eupotensial mae angen i ni sicrhau bod gennym gefnogaeth a adnoddau priodol mewn lle i alluogi hynny.
“Dyna pam fy mod yn gresynu at y ffaith bod Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi tynnu ei rhaglen gwaith ieuenctid a chymunedol israddedig yn ôl.
“Be rydym yn gweld ydi canlyniad Llywodraeth Cymru yn tan gyllido y sector addysg uwch.
“Mae hyn yn golygu nid oes llwybr o gymhwyster Lefel 3 Cymorth Gwaith Ieuenctid i gymhwyster proffesiynol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
“Rydw i yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog cyfleoedd i bobl ifanc fel y gallant gyflawni eu potensial, ac i weinidogion weithio gyda Prifysgol Glyndŵr Wrecsam i ddarparu rhaglen gwaith ieuenctid a chymunedol israddedig.
“Mae angen i weinidogion sicrhau bod gan y brifysgol yr adnoddau angenrheidiol er mwyn cynnal y rhaglen.”
Yn y Senedd, dywedodd Sioned Williams AS: “Mae pryder eang am hyn yn y sector; mae'r MA, meddent, yn anaddas i lawer o'r ymgeiswyr israddedig posibl sy'n dod i fyny trwy waith yn eu cymunedau lleol.
“Mae graddedigion o Wrecsam gan amlaf yn mynd ymlaen i ymarfer yng ngogledd Cymru ac mae hyfforddiant mewn mannau eraill yn creu risg y byddant yn aros yn ne Cymru, neu yn rhywle arall yn y DU hyd yn oed, ac yna hefyd, wrth gwrs, yn methu manteisio ar gyfleoedd cyfrwng Cymraeg lleol ar draws y rhanbarth.
“Felly, a fyddech cystal ag amlinellu pa drafodaethau a gawsoch gyda phrifysgol Wrecsam ynglŷn â chael gwared ar y rhaglen israddedig hon, a pha asesiad a wnaed gan y Llywodraeth o sut mae ei dileu yn effeithio ar nifer yr israddedigion sy’n mynd ymlaen i ymarfer gwaith ieuenctid a chymunedol proffesiynol yng ngogledd a chanolbarth Cymru?”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter