AS yn beirniadu penderfyniad Arriva i dorri gwasanaethau bws ‘heb ymgynghoriad’

Mae AS wedi beirniadu penderfyniad Arriva i dorri gwasanaethau bws yng Ogledd Cymru heb “ymgynghoriad”.

 

Beirniadodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli’r rhanbarth yn y Senedd, y cwmni bws ar ôl datganiad yn dweud na byddai nifer o safleoedd yn cael ei gwasanaethu, tra yn lleihau lefel y gwasanaeth i safleoedd eraill.

Siaradodd Mr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Plaid Cymru, am y mater ar lawr y Senedd.

Mae etholwyr wedi cysylltu gyda fo sydd yn “siomedig iawn na chysylltwyd â nhw fel defnyddwyr rheolaidd y gwasanaethau”.

Na fydd Arriva yn gwasanaethu safle siopa Tweedmill yn Llanelwy na Llandegla trwy ei Wasanaethau 51 a x51, Y Rhyl i Wrecsam o Ionawr 14.

Mae pryderon gall diddymu’r gwasanaeth arwain at ganlyniadau peryglus achos o bryderon diogelwch ar y ffordd.

Mae trigolion Llandegla, yn Sir Ddinbych, yn poeni y bydd yn gadael pentrefwyr wedi’i ynysu.

Achos o’r newid bydd teithwyr i’r safle bws agosaf yr A525, sydd hanner milltir i ffwrdd o ganol y pentref. Mae llawer o’r ffordd heb olau a heb bafin.

Mae gwasanaeth Llandudno i Brestatyn bob awr a na fydd yn galw yng orsaf trên Cyffordd Llandudno na Llysfaen.  

Mae gwasanaeth Bangor i Biwmares, a’r gwasanaeth Wyddgrug i Ellesmere Port, yn cael eu lleihau i ddim ond cael ei weithredu bob 75 munud,

Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “A gaf fi ofyn i chi beth fyddech chi wedi'i ddisgwyl gan gwmni fel Arriva mewn perthynas â gweithredu'r newidiadau hyn?

“Oherwydd mae etholwyr wedi cysylltu â mi heb unrhyw syniad fod y newidiadau hyn yn dod ac yn darllen amdano yn y wasg, ac maent yn siomedig iawn na chysylltwyd â nhw fel defnyddwyr rheolaidd y gwasanaethau hyn, ac na chawsant gyfle trwy broses ymgynghori i ddweud eu barn am unrhyw gynigion a oedd yn cael eu paratoi.

“A gafwyd asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb? Os na, fe ddylai fod wedi'i wneud, oherwydd yn amlwg mae'n rhan mor bwysig o alluogi pobl i gyrraedd swyddi a gwasanaethau, fel y clywsom.

“Ac mae yna safle bws newydd arfaethedig ar y brif ffordd, ar dir preifat, rwy'n credu. Nid oes gan y perchennog unrhyw fwriad o ganiatáu i'r tir hwnnw gael ei ddefnyddio. Felly, onid yw hyn i gyd yn awgrymu bod Arriva wedi gwneud cawlach o newid gwasanaethau, beth bynnag yw'r cymhelliad?

Atebodd Lee Waters gan ddweud bod posib “apelio” i Arriva gan adio “oni bai bod gennym arian i'w roi iddynt, cymhorthdal uniongyrchol, i gynnal llwybrau a ddiffinnir gennym fel rhai sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol, nid oes rhaid iddynt gymryd unrhyw sylw.”

Adiodd y buasai deddfwriaeth newydd a gynnigwyd yng Nghymru yn helpu sicrhau bod darparwyr gwasanaethau bws yn gorfod cydbwyso gwasanaethu anghenion cymunedau a creu elw yn well yn y dyfodol.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2024-01-19 15:23:32 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd