Mae AS wedi canmol gwestiynau a ofynnwyd gan ddisgyblion ysgol yn Sir Ddinbych yn dilyn ymweliad yn ystod Wythnos Senedd.
Cafodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn Senedd Cymru, y cyfle i sgwrsio gyda plant yn Ysgol Penmorfa ym Mrhestatyn am ei rôl yn siarad fyny dros drigolion ac yn craffu gwaith Llywodraeth Cymru.
Yn o gystal a hynny dangoswyd y gwleidydd o Blaid Cymru o gwmpas yr ysgol gan ddisgyblion a gwelodd y gegin, yr ardd, a’r iard adeiladwyr y maent yn eu defnyddio.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Roedd hi yn bleser pur i ymweld a Ysgol Penmorfa yn ystod Wythnos Senedd i siarad am fy rôl fel Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru.
“Dangosodd y plant ddiddordeb brwd yn sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru a gofynnwyd gwestiynau meddylgar.
“Mae hi yn gwbl glir bod pobl ifanc yn awyddus i ymwneud a gwleidyddiaeth ac eu bod nhw eisiau gwybod am waith y Senedd achos o’i effaith uniongyrchol ar gymaint o agweddau o’u bywydau.
“Mae meithrin y math yma o ryngweithio positif gan bobl ifanc gyda’r Senedd yn hanfodol ar gyfer dyfodol ein democratiaeth yng Nghymru.
“Rydw i eisiau dweud diolch i ddisgyblion Ysgol Penmorfa ac i holl aelodau o staff yr ysgol am y croeso cynnes.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter