Mae AS wedi canmol menter cymdeithasol am y gwaith mae’n gwneud yn y gymuned.
Creuwyd argraff dda pan ymwelodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, a Outside Lives, ger Yr Wyddgrug.
Dysgodd y gwleidydd o Blaid Cymru am sut mae’r mudiad yn cysylltu pobl trwy cyd-ddiddordebau, yn darparu gweithgareddau a digwyddiadau sydd yn hybu lles a twf, tra’n dathlu a gwarchod y byd natur ar yr un pryd.
Mae’r mudiad yn gweithio gyda aelodau o’r gymuned a partneriaid i gyd-ddylunio a chreu gweithgareddau cynaliadwy, ystyrlon a phwrpasol sydd yn helpu cryfhau perthnasau a creu rhwydweithiau bywiog.
Lansiwyd y fenter gan Gyfarwyddwr, Lucy Powell, yn 2018, ar ôl iddi gymryd amser sabothol o’i gyrfa fel gweithiwr cymdeithasol.
Mae ymchwil gan Cwmpas wedi dangos bod y sector tyfu yng Nghymru, gyda lefel uchel o weithgaredd entrepreneuriol newydd.
Mae yna o gwmpas 2,828 o fusnesau yn y sector, sydd yn gynnydd o 22% o 2022.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Roedd y yn bleser i ymweld a’r tim yn Outside Lives a dysgu am y waith ysbrydoledig mae nhw yn gwneud i rymuso pobl a’u helpu i fyw bywydau cyfoethog.
“Maent yn mynd ati mewn ffordd unigryw ac arloesol sydd yn bosib i fabwysiadu ar draws Cymru ac y tu hwnt.
“Mae nhw wedi gwneud gwaith arbennig i ddod a’r gymuned leol at ei gilydd a’i gysylltu a’r byd natur, ac yn y ffordd mae nhw wedi creu amgylchedd cefnogol, hyblyg, hydwyth a dyfeisgar.
“Rydw i yn hoffi eu ymrwymiad i greu diwylliant cynhwysol ac amrywiol ym mhopeth y mae nhw yn ei wneud, gan sicrhau eu bod yn cynnwys pawb, ddim mater eu rhywedd, oed, neu eu gallu.
“Rydw i yn credu yn gryf yn y model menter cymdeithasol a mae Outside Lives yn esiampl gwych o hynny yn cael ei weithredu.
“Mae mentrau cymdeithasol ar draws Cymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn eu cymunedau, ac maent yn flaengar yn taclo heriau byd-eang , megis toldi a newid hinsawdd.
“Rydw i yn ddiolchgar am y gwahoddiad i gyfarfod gyda Dr Daniel Roberts o Cwmpas a Lucy Powell ai’i thîm o Outside Lives a dwi’n edrych ymlaen att weld be mae nhw yn ei wneud yn y dyfodol.
“Rydw i yn cefnogi Cwmpas yn ei amcan i wneud mentrau cymdeithasol y fodel busnes dewisol yng Nghymru erbyn 2030.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter