Mae AS wedi canmol trafodaeth “meddylgar” disgyblion ysgol uwchradd am ddeddf 20mya.
Dywedodd Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd fod disgyblion Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy wedi gwneud “argraff hynod o dda” hefo eu cyfraniadau.
Cymerodd Gyngor yr ysgol bleidlais ar ddiwedd y ddadl a ddangosodd eu bod nhw wedi rhannu 50/50 ar y mater.
Yn o gystal a hynny dadleuwyd plastigion un defnydd a pleidleisiwyd yn bendant i gefnogi y ddeddf yn atal eu defnydd a basiwyd gan y Senedd yn ddiweddar.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, o Blaid Cymru: “Mae’n rhaid i fi ddweud bod y ffordd meddylgar mae disgyblion Ysgol Glan Clwyd wedi mynd ato i drafod y ddeddf 20mya wedi gwneud argraff hynod o dda.
“Mae o yn gwbl ddealladwy bod y mater wedi tanio teimladau cryf ar draws Cymru a mae o yn bwysig iawn mewn cymdeithas democrataidd ein bod yn cael y math yma o drafodaethau lle mae bobl yn rhydd i fynegi barn.
“Dangosodd y disgyblion llawer iawn o aeddfedrwydd a gwnaethpwyd nifer o bwyntiau meddylgar o blaid ac yn derbyn y ddeddf 20mya. Ni fysasai’r pwyntiau wedi bod allan o le ar lawr y Senedd.
“Hefyd cefais y cyfle i sôn i’r disgyblion am fy rôl fel Aelod o’r Senedd, ac ateb cwestiynau am hynny.
“Mae ennyn y math yma o ymgysylltiad gan bobl ifanc hefo’r Senedd yn oll bwysig i ddyfodol ein democratiaeth yng Nghymru.
“Rydw i eisiau diolch i ddisgyblion a staff Ysgol Glan Clwyd am y croeso cynnes.
Dywedodd Prif Ddisgybl Ysgol Glan Clwyd, Gwion Williams: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Llyr Gruffydd am ymweld a ni yn Ysgol Glan Clwyd.
“Aeth y drafodaeth yn dda iawn a roedd o’n neis gweld yr ymrwymiad yna gan fy nghyd-ddisgyblion. Mae o’n bwysig cynnal digwyddiadau fel yma achos mae o’n cynyddu ymgysylltiad pobl ifanc hefo gwleidyddiaeth.
“Mae o’n gwneud i ti feddwl yn fwy beirniadol am benderfyniadau gan wleidyddion sydd yn sy’n cael effaith ar fywyd dydd i ddydd.
“Yn bersonol y byswn i yn pleidleisio o blaid y ddeddf 20 milltir yr awr. Er ei fod o yn creu anawsterau yn y byr dymor, yn mae o werth o yn yr hir dymor achos fydd llai o bobl yn cael eu lladd ar y ffyrdd.
Esboniodd Gwion sut mae Cyngor yr ysgol yn gweithio: “
“Mae’r cyngor ysgol yn cael ei arwain gan y Prif Ddisgyblion a da ni’n gweithio law yn llaw hefo y Pennaeth a’r dirprwyon.
“Blwyddyn diwethaf gwnaethom ni wahardd plastigion un defnydd yn y ffreutur. Felly erbyn hyn does yna ddim cynnyrch yn y ffreutur sydd yn cynnwys plastigion un defnydd.
“Rhoddodd yr ysgol fotel plastig aml-ddefnydd i bob disgybl fel bod ni ddim yn prynu rhai o’r ffreutur. Na ni wedi dod a defnydd o cyllyll a ffyrc plastig i ben hefyd.
“Mae’r pwyllgor yn bwysig achos dwi’n credu mewn rhoi llais i ddisgyblion. Ni ydi’r rhai sydd yn yr ysgol a mae o yn bwysig ein bod yn dylanwadu ar sut mae’r ysgol yn cael ei redeg ac ein bod yn gweld newidiadau sydd yn gwneud ein bywydau dydd i ddydd yn haws.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter