AS yn cefnogi galw am hwb bancio yn Ninbych

Mae AS wedi cefnogi’r galw am greu hwb bancio yn Ninbych yn sgil nifer o fanciau yn cau eu drysau yn y dre.

Dywedodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, bod pobl lleol wedi cael eu gadael “heb fynediad i’r gwasanaethau bancio mae nhw angen” ar ôl i’r dref gael ei adael heb unrhyw fanc ar y stryd fawr.

Mae’r gwleidydd wedi rhoi ei gefnogaeth i alwad gan grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych, i greu hwb bancio newydd.

Mae HSBC, Halifax, NatWest a Barclays wedi cau eu canghennau yn Ninbych, sydd yn adlewyrchu patrwm ar draws Cymru a gweddill y DU.

Mae’r patrwm yma wedi arwain at hwbiau banciau yn cael ei creu er mwyn galluogi pobl i gael mynediad i wasanaethau bancio angenrheidiol. Agorwyd hwb bancio yn Mrhestatyn yn Mis Rhagfyr 2023.

Datblygwyd y syniad am hybiau bancio can rwydwaith mynediad arian parod a ATM y DU, LINK.

Maent yn gweithredu mewn ffordd tebyg i ganghennau bancio traddodiadol, ond mae’r lleoliad yn cael ei rannu ac mae yna wasanaeth dros y cownter sydd yn cael ei weithredu gan aelodau staff y Swyddfa Bost.

Gall gwsmeriaid unrhyw fanc dynnu allan neu talu fewn arian parod, talu biliau, a gwneud trafodion arferol. Maent hefyd yn darparu ATM am ddim, a rhoi arian yn ôl heb brynu.  

Ar gyfer deilio gyda materion mwy cymhleth mae ganddynt lefydd preifat lle gall cwsmeriaid siarad gyda aelod o staff o’u banc eu hunain.

Mae aelodau staff a wahanol fanciau ar gael ar ddiwrnodau gwahanol.

Dywedodd Llŷr Gruffydd: “Mae banciau yn gadael y stryd fawr yn Ninbych wedi gadael nifer o bobl yn y dref a’r ardal lleol heb fynediad i’r gwasanaethau bancio mae nhw angen.

“Ni ddylai fod pobl lleol yn cael eu gorfodi i deithio am filltiroedd i wneud trafodion bancio arferol.

“Er ei fod yn wir i ddweud bod mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau bancio digidol, mae yna dal llawer iawn o bobl sydd yn cael trafferth gwneud hynny – yn enwedig pobl hyn.

“Mae hefyd angen cofio bod nifer o adwerthwyr annibynnol yn dibynnu ar ddefnyddio arian parod.

“Dyna pam rydw i yn cefnogi galwad grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych am greu hwb bancio newydd yn Ninbych.

Dywedodd Cyng Delyth Jones, Arweinydd grŵp Plaid Cymru, ar Gyngor sir Ddinbych: “Ar ran grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor hoffwn ddiolch i Llŷr Gruffydd am gefnogi creu hwb bancio newydd yn Ninbych.

“Mae cefnogaeth am greu hwb bancio yn y dre yn tyfu ac rydw i yn annog LINK i dalu sylw i hyn ac i ailfeddwl y penderfyniad u beidio creu un.

“Rydym wedi gweld Prestatyn yn cael un a dylai tref maint Dinbych gael un hefyd.”

 

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2024-04-05 15:25:38 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd