AS yn cefnogi galwad yr RSPCA i bobl fod yn ‘ystyriol’ i dymor tân gwyllt

Mae AS yn cefnogi galwad yr RSPCA Cymru i bobl fod yn “ystyriol” pan yn dathlu yn ystod y tymor tân gwyllt.

Siaradodd Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, am yr angen i “gadw anifeiliaid yn ddiogel a sicrhau eu lles” o flaen dathliadau noson Calan Gaeaf, noson Tân Gwyllt, Diwali, a’r Flwyddyn Newydd a fydd yn digwydd dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.   

Mae gan nifer o anifeiliaid ofn o dân gwyllt, ac yn aml fydd perchnogion yn eu gweld yn rhedeg i ffwrdd yn ystod ffrwydradau.  

Gall anifeiliaid rewi gydag ofn neu hyn yn oed yn fwy peryg rhedeg i ffwrdd, neu taro ffens.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Gyda terfyn Mis Hydref yn agosáu byddwn yn weld dathliadau sy’n cynnwys tân gwyllt yn digwydd ar draws Cymru dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

“Mae dathliadau megis noson Calan Gaeaf, noson Tân Gwyllt, Diwali, a’r Flwyddyn Newydd yn gyfleoedd pwysig er mwyn mwynhau gyda ein teuluoedd, ein ffrindiau, a’n cymunedau.  

“Wrth gwrths y fydd llawer ohonom yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiadau yma, ond mae hefyd angen i ni gofio y gall tân gwyllt godi ofn ar anifeiliaid megis anifeiliaid anwes, ceffylau ac anifeiliaid fferm, yn o gystal a rhai pobl.  

“Dyna pam rydw i yn cefnogi yr RSPCA sydd yn annog o bobl i fod yn ystyriol yn ystod y dathliadau.

“Mae Cymru yn wlad sydd yn caru anifeiliaid ac rydw i eisiau gweld dathlu yn digwydd mewn ffordd sydd yn cadw anifeiliaid yn ddiogel a sicrhau eu lles.

“Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod perchnogion yn gwneud y trefniadau angenrheidiol megis eu cadw y tu mewn, creu safleoedd diogel ac aros gyda nhw os oes angen.

“Mae o hefyd o gymorth os gall perchnogion anifeiliaid drefnu ymlaen llaw, ac felly i arwyddion cyhoeddus a preifat cael eu rhannu gyda cymdogion mewn da bryd.  

“I wneud paratoadau yn haws i bawb dylai tân gwyllt gael ei ddefnyddio ar ddiwrnod y dathliad penodol yn unig.

“I osgoi niweidio bywyd gwyllt fel draenogiad dylai coelcerthi gael eu archwilio yn drylwyr cyn eu tanio.

“Ar ôl i dân gwyllt gael ei ddefnyddio mae angen ei waredu mewn ffordd diogel a chyfrifol.”

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2023-10-27 16:52:13 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd